Awdurdodau lleol yn galw am gyllid ar gyfer gwyliau treth gyngor.

Rhaid i'r Llywodraeth Llafur gefnogi awdurdodau lleol 'rheng flaen' i helpu pobl mewn angen. 

 

Mae Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Llefarydd y Blaid yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cyng Emlyn Dole, a Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, Delyth Jewell AC, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ddweud yr hoffai awdurdodau Plaid Cymru gynnig rhyddhad treth gyngor, ond bod arnynt angen sicrwydd o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Yn y llythyr, maent yn amlinellu dymuniad cynghorau Plaid Cymru i gael yr hyblygrwydd i wneud y canlynol:

  • Symud egwyl flynyddol y dreth gyngor ymlaen i ddechrau blwyddyn ariannol 2020-21, o Fawrth-Ebrill 2021, i bobl sy'n talu mewn deg rhandal
  • Cynnig cynllun gohirio taliadau i bobl â'i angen
  • Ehangu budd-dal y dreth gyngor am o leiaf 3 mis i unrhyw un â chyflwr iechyd sylfaenol sy'n golygu bod rhaid iddynt hunanynysu os ydynt yn hunangyflogedig neu'n methu gweithio o'u cartrefi ac yn colli incwm o ganlyniad.


I wneud hyn, mae ar gynghorau angen rhagor o gyllid ymlaen llaw gan Lywodraeth Llafur Cymru a sicrwydd y cânt eu cefnogi pe baent yn wynebu problemau â llif arian yn y dyfodol.

Dim ond £30 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Llafur Cymru ar gyfer awdurdodau i ymdopi â'r argyfwng, ond mae llawer o hwn eisoes wedi'i neilltuo i gefnogi pobl ddigartref a phrydau ysgol am ddim. Dim ond £13 miliwn sydd ar ôl i roi cefnogaeth bellach i 22 awdurdod lleol Cymru.

Mae'r Cynghorydd a Llefarydd yr Wrthblaid wedi galw am gynnig ystod eang o gefnogaeth i Lywodraeth leol, gan gynnwys...

Meddai Delyth Jewell AC:

"Mae awdurdodau lleol ar reng flaen y frwydr yn erbyn y feirws hwn, ac mae angen iddynt allu bod yn hyderus y gallant fuddsoddi yn y gwasanaethau a chefnogi pobl mewn angen. Yr unig bobl a all roi'r hyder hwnnw iddynt yw Llywodraeth Cymru.

"Hoffai awdurdodau lleol Plaid allu cynnig cefnogaeth fel gwyliau treth gyngor nawr, i'r bobl sydd ag angen hynny. Mae gennym gynllun, gallwn wneud mwy, ond mae angen i'r Llywodraeth ddod i'r adwy. 

"Mae hwn yn gyfnod digynsail, ac mae angen mesurau digynsail. Mae llywodraeth leol yn gweithio'n ddi-baid i helpu i gefnogi ein cymunedau, a gydag ychydig bach mwy o help, gallant wneud llawer dros bobl mewn angen." 

Meddai Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a chynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Grŵp Cyngor Plaid Cymru, Emlyn Dole

"Mae cynghorau'n gwneud popeth sydd o fewn ein gallu i helpu, ac yma yn Sir Gaerfyrddin rydym wedi bod yn sicrhau gofal i blant a'r henoed, yn trefnu cyflenwadau bwyd i bobl sy'n defnyddio banciau bwyd ac yn cefnogi'r bwrdd iechyd i baratoi am yr wythnosau nesaf.

"Hoffem wneud mwy fel cyngor i gefnogi pobl, er enghraifft rhoi rhyddhad treth gyngor i bobl sy'n colli incwm o ganlyniad i orfod hunanynysu a methu gweithio o'u cartrefi.

"Ond er mwyn gallu gwneud hyn mae angen i ni gael mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

"Felly, rwy'n gofyn iddynt roi'r adnoddau sydd eu hangen arnom i ni cyn gynted â phosibl drwy symud taliadau Grant Cynnal Refeniw ymlaen, rhoi rhagor o gyllid i ni i ymdrin â'r coronafeirws a rhoi sicrwydd i ni y byddant yn tanysgrifennu unrhyw wariant ychwanegol y gallai fod angen i ni ei wneud oherwydd y feirws."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd