Beirniadu cynllun i dorri gwasanaeth tren o Ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion

ASau PLAID YN LLEISIO PRYDER AM YR EFFAITH AR GLEIFION A THEITHWYR.  

Mae Aelod Senedd Cymru dros Arfon Siân Gwenllian a’r Aelod Seneddol Hywel Williams wedi beirniadu cynlluniau i dorri ar wasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng gogledd orllewin Cymru a Maes Awyr Manceinion. 

Gallai cynigion a gyflwynwyd gan Dasglu Adferiad Manceinion (MRTF), hefyd fod â goblygiadau i gleifion y galon a'u teuluoedd sy'n teithio ar y trên o ogledd Cymru i Ganolfan y Galon Manceinion, gan fod bwriad o gael gwared ar wasanaethau o Orsaf Oxford Road, sy'n gwasanaethu'r ysbyty. 

Yn gwrthwynebu'r cynlluniau, dywedodd yr AS Siân Gwenllian a'r AS Hywel Williams:  

‘Mae’n hanfodol cynnal y cyswllt rheilffordd uniongyrchol hwn o ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion.’ 

‘Mae’r cyswllt hwn ymhell o fod yn berffaith ar hyn o bryd ond byddai torri’r cysylltiad rheilffordd yn ergyd drom i economi gogledd Cymru.' 

'Byddai hefyd yn achosi anghyfleustra enfawr i deuluoedd sy'n teithio o Fangor i Faes Awyr Manceinion ar gyfer teithio ar wyliau ac yn faich diangen i gleifion calon gogledd Cymru a'u teuluoedd sy'n teithio ar y trên i Ganolfan y Galon Manceinion.' 

‘Byddai hefyd yn achosi twf uniongyrchol mewn traffig ceir o ogledd Cymru i mewn i ardal Manceinion wrth i bobl gefnu ar y trên, rhywbeth na ddylai neb fod ei eisiau.’ 

'Efallai fod y dewisiadau eraill a gynigir (ar wahân i gynnal y cyswllt) yn gweddu i ddiddordebau arbennig rhai pobl ym Manceinion ond byddai hyn yn enghraifft arall eto o ddewisiadau pobl eraill yn cael eu blaenoriaethu ar draul pobl gogledd Cymru heb unrhyw fai arnom ni.’  


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-03-09 15:37:30 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd