Beirniadu Sainsbury's am gau siop Argos Caernarfon.

ASau lleol yn galw am sicrwydd ynghylch Argos Bangor. 

Mae Aelod Senedd San Steffan dros Arfon Hywel Williams ac Aelod Senedd Cymru Arfon Sian Gwenllian wedi beirniadu penderfyniad Sainsburys i gau siop Argos Caernarfon, gan alw am sicrwydd ynghylch dyfodol eu siop ym Mangor. 

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Sainsburys eu bod yn cau 420 o siopau Argos ledled y DU, gan arwain at 3,500 yn colli eu swyddi. 

Dywedodd Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AS

'Mae'n destun gofid mawr bod Sainsburys wedi penderfynu cau siop boblogaidd Argos yng Nghaernarfon heb, hyd y gwelwn ni, unrhyw gydnabyddiaeth o'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar y gymuned leol.' 

‘Mae hwn ymddangos fel polisi cyffredinol iawn heb unrhyw ystyriaeth o amodau lleol na’r effaith y bydd cau y siop yn ei gael ar gwsmeriaid ffyddlon Caernarfon.’ 

'A yw penaethiaid Argos wedi asesu’n llawn y difrod posib i’w henw da wrth gau siopau hirsefydlog mewn llefydd fel Caernarfon, lle nad oes yr un Sainsburys mewn bodolaeth.’ 

‘Rydym yn cydymdeimlo â’r rhai sydd wedi colli eu swyddi, ar adeg pan mae dod o hyd i gyflogaeth arall yn hynod heriol.'

'Er ein bod yn deall bod rhai aelodau staff eisoes wedi cael eu hadleoli i siop Argos ym Mangor, rydym yn ceisio sicrwydd cadarn bod dyfodol y siop honno'n cael ei sicrhau.' 

'Fel sydd wedi dod yn arferiad bellach gan gwmniau mawr wrth gau siopau, pur anaml mae amodau lleol yn cael eu hystyried. Dylai’r cwmnïau yma ystyried yr effaith ar gymunedau lle nad oes darpariaeth manwerthu tebyg yn bodoli.'


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-11-09 15:31:59 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd