Busnesau Awyr Agored Eryri yn colli allan ar gefnogaeth angenrheidiol.

ASau Arfon yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd i weithwyr llawrydd a hyfforddwyr hunangyflogedig.

Mae Aelod Plaid Cymru o Senedd San Steffan dros Arfon Hywel Williams ac Aelod Senedd Cymru Siân Gwenllian wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn annog llywodraeth Cymru i ddarparu amserlen glir i ddarparwyr gweithgareddau awyr agored hunangyflogedig, llawrydd a chwmnïau bach yn Eryri. ynghylch a phryd y gall eu gwasanaethau ail-ddechrau.

Mae nifer o etholwyr sy'n gweithio yn y sector awyr agored lleol wedi cysylltu â Mr Williams a Ms Gwenllian, yn bryderus iawn ynghylch diffyg cefnogaeth penodol ar gyfer y rheini sy'n disgyn y tu allan i feini prawf cymhwysedd cynlluniau cymorth llywodraeth y DU a Chymru.

Nid oes gan lawer o'r busnesau a'r gweithwyr hyn adeiladau sefydlog ac nid ydynt ar gynlluniau TWE ac felly maent wedi'u heithrio o gymorth ariannol. Mae llawer hefyd wedi'u heithrio rhag hawlio Credyd Cynhwysol gan fod ganddynt bartneriaid sy'n ennill incwm.

Dywedodd Hywel Williams AS Siân Gwenllian AS, 

 

'Gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a thraethau yn ailagor ac ymwelwyr yn cael eu croesawu yn ôl i Gymru, ymddengys nad oes llawer o ganllawiau ynghylch pryd all elfennau penodol o’r sector gweithgareddau awyr agored ail gychwyn gwasanaethau.'  
'Yn benodol, mae tywyswyr/ hyfforddwyr dringo a cherdded, busnesau awyr agored, canolfannau gweithgareddau awyr agored ynghyd a chymdeithasau cerdded, sy’n cynnal nifer o swyddi ar draws Eryri yn dal i aros am amserlen glir o phryd y bydd yn ddiogel i ail ddechrau eu gwasanaethau.'
'Mae llawer o'r busnesau hyn, gan gynnwys gweithwyr llawrydd a hunangyflogedig, wedi methu â chael mynediad at gynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael gan lywodraethau'r DU a Chymru gan eu bod y tu allan i'r meini prawf cymhwysedd.'
'Mae llawer yn ei chael hi'n anodd byw ar incwm sydd wedi gostwng yn sylweddol a dim sicrwydd pryd y gallant ddychwelyd i'r gwaith. Mae yna bryder na fydd y busnesau bach hyn byth yn gallu adfer o effaith ariannol Covid-19 '
'Tra bod y mwyafrif yn gefnogol i'r angen i flaenoriaethu iechyd ein cymunedau lleol, ni allant ddeall pam fod rhai busnesau twristiaeth yn cael ailagor ond nid eu sector nhw.'
'Hyderwn y gall y Prif Weinidog roi rhywfaint o sicrwydd i'r busnesau a'r unigolion hyn sy’n ddibynnol ar wybod pryd y gallant ddychwelyd i'r gwaith.'

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd