Bwyd Da Bangor: Datrysiad i sawl problem

Yn ôl yr AS, mae’r fenter yn cynnig atebion “creadigol”

Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd Arfon a Hywel Williams AS draw i Bwyd Da Bangor, menter bwyd gymdeithasol ar Stryd Fawr Bangor.

 

Mae'r caffi, sydd wedi'i leoli ger y cloc ar Stryd Fawr Bangor yn cael ei staffio gan unigolion sy'n byw yng nghanolfan adfer cyffuriau ac alcohol Penrhyn House, yn ogystal ag unigolion sy'n byw mewn lloches i’r digartref ym Mangor.

 

Ond mae’r AS ar gyfer Arfon yn honni bod Bwyd Da Bangor “yn llawer mwy na chaffi, mae’n ddatrysiad arloesol, blaengar i sawl problem.”

 

Wrth ymweld â chaffi Bwyd Da Bangor ar y Stryd Fawr, dywedodd Siân Gwenllian:

 

“Mae gwastraff bwyd, tlodi bwyd, problemau cyffuriau ac alcohol, newid hinsawdd a dirywiad ein Stryd Fawr yn broblemau go iawn sy'n wynebu pob un ohonom, ac mae Bwyd Da Bangor yn llwyddo i fod yn ddatrysiad lleol, arloesol ar gyfer yr holl broblemau hyn. 

“Mae staff Bwyd Da Bangor yn derbyn hyfforddiant o ansawdd uchel yn y caffi a thrwy Goleg Menai, sy’n rhoi gobaith am adferiad cyflawn, cymwysterau a chyflogaeth hirdymor o bosibl.

  

“Mae eu gweledigaeth yn un wirioneddol wyrdd, gydag ymrwymiad i leihau eu hôl troed carbon. Bydd ffocws ar leihau gwastraff bwyd, a fydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn lleol.

 

“Mae’r agwedd eco-ymwybodol wrth wraidd ymrwymiad diweddar Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i sefydlu strategaeth bwyd cymunedol i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd yn lleol yng Nghymru.

 

“Yn ogystal ag effaith gymdeithasol ac amgylcheddol y fenter, bydd Bwyd Da Bangor yn rhoi hwb i Stryd Fawr Bangor.”

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS;

 

“Mentrau fel yr un hon ydi’r dyfodol. Mae’r asiantaethau amrywiol wedi dod ynghyd, ac wedi edrych ar yr holl heriau sy'n wynebu Bangor ac wedi mynd ati i ganfod ateb creadigol.

 

“Mae marwolaeth ddiweddar Carl Clowes wedi rhoi cyfle inni ystyried effaith drawsnewidiol mentrau cymdeithasol.

 

“Sefydlodd y Gydweithfa Gymunedol gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1974, ym mhentref chwarelyddol Nant Gwrtheyrn.

 

“Wrth wraidd ei weledigaeth roedd newid cymdeithasol a chynaliadwyedd ein cymunedau, ac edrychaf ymlaen at weld Bwyd Da Bangor yn cyfrannu at y weledigaeth honno.”

 

Mae’r cynllun amlasiantaeth yn cael ei redeg gan Penrhyn House, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd, Cyngor Dinas Bangor, Adra, Tai Gogledd Cymru, Coleg Menai a'r Brifysgol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-12-22 10:30:12 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd