Bydd y penderfyniad ynglŷn â BTEC yn cael "sgil-effeithiau difrifol" ar filoedd o ddisgyblion o Gymru, rhybuddia Siân Gwenllian AS.

‘Unwaith eto mae myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau galwedigaethol yn cael eu gwneud i deimlo fel Cinderellas system addysg Cymru.’ 

Wrth ymateb i’r newyddion nad oedd y bwrdd arholi Pearson am ryddhau canlyniadau BTEC yn sgil penderfyniad i ailraddio, dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Siân Gwenllian AS
  
“Mae’r newyddion nad yw bwrdd arholi Pearson am ryddhau canlyniadau BTEC yn sgil penderfyniad i ailraddio am gael sgil-effaith ddifrifol ar filoedd o ddisgyblion ledled Cymru, ac mae llawer yn parhau yn y niwl ynglŷn â’u dyfodol. Mae pobl ifanc wedi cael eu siomi unwaith yn rhagor, ac yn syml, nid yw hyn yn ddigon da.  
 
Bydd miloedd o fyfyrwyr BTec eisoes wedi derbyn eu graddau yr wythnos ddiwethaf, gyda’r gweddill yn eu disgwyl y bore hwn. Nawr mae rhagor o aros, mwy o ansicrwydd ac unwaith eto mae myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau BTec yn cael eu trin yn eilradd.  
 
“Mae angen i Pearson gyhoeddi PRYD y bydd y graddau ar gael. Mae’n bosibl y bydd rhai myfyrwyr BTec Lefel-3 bellach yn gallu cael mynediad i gyrsiau prifysgol wedi'r cyfan, ond byddant yn colli allan oherwydd bydd y lleoedd wedi cael eu rhoi i fyfyrwyr Safon Uwch sydd eisoes yn gwybod eu graddau. 
 
“Mae angen holi pam y cymerodd gymaint o amser i Pearson sylweddoli goblygiadau newidiadau graddau TGAU a Lefel A ar gymwysterau BTec a pha drafodaethau, os y cafwyd rhai o gwbl, oedd yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a Pearson dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. 

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd