Byddai gwneud hanes Cymru a hanes BAME yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd yn "symudiad hanesyddol", meddai Plaid.

Byddai gwneud hanes Cymru yn a hanes pobl dduon a phobl groenliw yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd yn "symudiad hanesyddol" meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS.

Bydd dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 1 Gorffennaf), dan arweiniad Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud addysgu hanes Cymru ac addysgu hanes pobl dduon a hanes pobl groenliw yn orfodol yn y cwricwlwm newydd.

 

O dan gynlluniau cwricwlwm presennol Llywodraeth Cymru, ni fyddai'n rhaid i ysgolion addysgu disgyblion am hanes pobl dduon a hanes pobl groenliw, nac ychwaith am hanes Cymru.

 

Dywedodd Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS, y byddai gwneud yr elfennau hyn yn statudol yn cyflwyno "cyfle hanesyddol" i unioni anghydraddoldeb strwythurol yng Nghymru a sicrhau bod y system addysg yn creu "Cymru gyfartal a chynhwysfawr i bawb yn y dyfodol".

 

Anogodd Ms Gwenllian Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y cyfle.

 

Mae 30,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn orfodol i ysgolion addysgu hanes pobl dduon a phobl groenliw yn y Deyrnas Unedig yn ysgolion Cymru.

 

Roedd yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford - i ddeall pam mae Covid-19 yn cael effaith anghymesur ar bobl BAME - yn argymell gweithredu ar unwaith i gynnwys hanes ac addysg BAME yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru i ddisgyblion cynradd ac uwchradd i "atal hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol".

 

Cyhoeddir Bil Cwricwlwm drafft Llywodraeth Cymru ar yr 8fed o Orffennaf.

 

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS,

 

"Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers meitin y dylai hanes Cymru fod yn elfen statudol o'r cwricwlwm newydd er mwyn i bob plentyn gael cyfle i wybod a deall hanes ein cenedl.

"Fodd bynnag, mae'r protestiadau diweddar Mae Bywydau Duon o Bwys wedi taro ffocws clir ar yr angen i gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw hefyd fel rhan statudol o'r cwricwlwm.

"Ar hyn o bryd, nid yw Bil Cwricwlwm Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn orfodol i unrhyw ysgol addysgu hanes Cymru na hanes pobl dduon. Yn hytrach, mae'n gadael yr elfennau hynny'n ddewisol i ysgolion unigol.

"Mae cwricwlwm cwbl benagored yn golygu na fydd pob disgybl yn cael y cyfle i ddysgu am faterion sydd, yn ein cred ni, yn allweddol i greu cymdeithas fwy cyfartal a ffyniannus ac i siapio dinasyddion sy'n ymwybodol o'u gorffennol.

"Ond mae gwneud yr elfennau hyn yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd yn cyflwyno cyfle hanesyddol i unioni anghydraddoldeb strwythurol yng Nghymru a sicrhau bod y system addysg yn creu Cymru gyfartal a chynhwysfawr i bawb yn y dyfodol. Bydd yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am wrth-hiliaeth ac am amrywiaeth Cymru - a'u bod yn gallu gweld y byd drwy ffenestr y wlad y maent yn byw ynddi – Cymru.

"Byddai'n drasiedi pe na bai Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn."

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.