Siân Gwenllian AC yn cefnogi ‘byw heb ofn’

Dydd Gwener Tachwedd 25 yw Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Merched (International Day for the Elimination of Violence Against Women)  ac i nodi a chefnogi’r achlysur, bu Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian yn ymweld â’r ganolfan sy’n rhedeg y gwasanaeth llinell cymorth genedlaethol o’r enw Byw Heb Ofn, Live Fear Free , sydd mewn lleoliad cyfrinachol yn etholaeth Arfon.

Meddai’r Aelod Cynulliad: “Mae’r llinell gymorth yn wasanaeth ardderchog ar gyfer unrhyw un sydd am drafod camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol neu drais yn erbyn merched. Mae’r ganolfan yn Arfon ond nid yw’n briodol i ddatgelu union leoliad y ganolfan. Mae’r staff yno yn derbyn galwadau ffôn gan bobl ar draws Cymru. Mae gan y staff sgiliau arbennig a phrofiad o gynnal sgyrsiau anodd mewn ffordd sensitif a chyfrinachol’’.

Mae’r staff hefyd ym meddu sgiliau dwyieithog ac mae’r gwasanaeth yn enghraifft dda iawn o ddarpariaeth sy’n gallu cael ei gynnal o’r tu draw i Gaerdydd a’r de ddwyrain ac eto’n gallu cynnig gwasanaeth i bawb yng Nghymru. Yn ddiweddar, cafodd Byw Heb Ofn un o’r prif wobrau ar gyfer llinellau cymorth mewn seremoni yn Llundain.

Mae 96% o’r galwadau sy’n cael ei derbyn yn dod gan ferched ac mae’r ganolfan yn trin oddeutu 28,500 o alwadau pob blwyddyn – yn ychwanegol i alwadau allan i asiantaethau cefnogol. Mae’r ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r gwasanaethau cyhoeddus a’r heddlu a gyda rhwydwaith llochesi ar draws y Deyrnas Unedig.

Does dim angen i unrhyw un roi eu henw wrth ffonio. Rhif Ffôn Byw Heb Ofn yw 0808 8010 800.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd