Plaid Cymru Arfon yn lansio Calendr Adfent Tu Chwith

Mae'r gaeaf yn adeg arbennig o anodd i deuluoedd incwm isel gan eu bod yn aml yn gorfod gwneud y dewis anodd rhwng cael digon i'w fwyta a thalu i wresogi eu cartref.

Golyga hyn bod y defnydd o fanciau bwyd yn gallu cynyddu dros y gaeaf wrth i bobl ddefnyddio'r gwasanaeth er mwyn goroesi caledi'r cyfnod.

O ganlyniad i'r cynnydd yma mewn galw, mae banciau bwyd angen mwy o gefnogaeth gan y cyhoedd er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o fwyd ar gael i'r rhai sydd ei angen.

Er mwyn ceisio ymateb yn rhannol i’r angen, mae Plaid Cymru Arfon yn lansio'r Calendr Adfent Tu Chwith, ac yn annog etholwyr i ymuno â nhw.

Yn hytrach na derbyn darn o siocled bob dydd yn ystod mis Rhagfyr fel sydd yn arferol, syniad y Calendr Adfent Tu Chwith yw bod teulu neu swyddfa yn rhoi eitem o fwyd mewn basged bob dydd, ac yn cyflwyno'r fasged nwyddau i fanc bwyd Bangor a Chaernarfon cyn y Nadolig.


Meddai Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon dros Blaid Cymru,


"Mae'n dorcalonnus bod gymaint o deuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd a bod cymaint o blant yn byw mewn tlodi ar adeg o'r flwyddyn sydd i fod yn llawn hapusrwydd.


Mae'r Calendr Adfent Tu Chwith yn ffordd hawdd i bobol gyfrannu i'w banc bwyd lleol, unai fel teulu, grŵp o ffrindiau neu gyd-weithwyr.


Byddwn ni yn swyddfa Plaid Cymru yng Nghaernarfon yn llenwi basged ac yn ei rannu rhwng banciau bwyd Caernarfon a Bangor, ac mae croeso i bobol adael cyfraniadau yn y swyddfa os ydynt yn dymuno."



Meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon,


‘‘Mae tlodi bwyd yn bla ar fywydau miloedd o bobl ledled Cymru ac yn cael ei waethygu gan brisiau ynni uchel a thoriadau gwirioneddol mewn cyflogau.


Mae Cymru yn dwyn baich argyfwng costau byw y DU, gyda defnyddwyr banciau bwyd yn cynyddu, gan gynnwys y rheiny sydd yn dibynnu ar ddognau brys.


Ymddangosodd banciau bwyd fel y rhai ym Mangor a Chaernarfon fel ymateb gofalgar a thosturiol i’r broblem.


Gobeithiaf yn fawr bydd pobl leol yn ymateb yn bositif i’r fenter, fel bod y bobl fydd mewn gwir angen y Nadolig yma yn gallu cael budd o haelioni lleol’’.

Derbynnir nwyddau i fanc bwyd Caernarfon pob dydd Mawrth a Gwener yn yr Eglwys Bentecostaidd yng Nghibyn a derbynnir nwyddau ar ddydd Llun, Mercher a Gwener i fanc bwyd Bangor yng Nghadeirlan Bangor. Bydd Swyddfa Plaid Cymru, yn Stryd y Castell Caernarfon yn derbyn nwyddau i fanciau bwyd Caernarfon a Bangor cyn yr 20fed o Ragfyr.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd