Cai Larsen
Mae Cai wedi cynrychioli ward Seiont ar gynghorau Gwynedd a Chaernarfon ers pum mlynedd. Mae ffiniau wardiau Caernarfon yn newid eleni ac mae wedi rhoi ei enw ymlaen ar gyfer ward newydd Canol Tref Caernarfon.
Mwy am Cai:
- Cadeirydd Porthi Dre Cyf. – y cwmni sy’n gyfrifol am siop O Law i Law yn Stryd Llyn a nifer o gynlluniau eraill.
- Un o sylfaenwyr grŵp Cofis Curo Corona – grŵp oedd yn cefnogi pobl fregus yn ystod y cyfnod clo.
- Gwirfoddoli ar gynllun Fareshare – cynllun rhannu bwyd dros ben o archfarchnadoedd.
- Llywodraethwr Ysgol yr Hendre ac Ysgol Syr Hugh Owen.
- Eistedd ar Ymddiriedolaeth yr Harbwr.
- Eistedd ar Fwrdd Rheoli Adra.
Record Cai:
- Record mynychu cyfarfodydd ymysg y gorau ar Gyngor Gwynedd ers 2017.
- Cynnal cymorthfeydd rheolaidd.
- Wedi delio efo ymhell dros 670 o ymholiadau gan etholwyr.
- Cadeirio Pwyllgor Gwaith Cyngor Tref Caernarfon – y pwyllgor sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau newydd y Cyngor Tref i’r cyhoedd.
- Dirprwy Faer Cyngor Tref Caernarfon yn y flwyddyn gyfredol.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter