Canran uchaf erioed o gynghorwyr Plaid Cymru i Wynedd.

Mae Plaid Cymru Gwynedd wedi sicrhau mwyafrif clir a mandad gadarn gan gymunedau Gwynedd i arwain y cyngor sir dros y bum mlynedd nesaf. Etholwyd y ganran uchaf erioed o gynghorwyr Plaid Cymru i Wynedd ers ei ffurfio yn 1996, sef 64% o’r cynghorwyr. 

 

Bydd gan y Blaid 44 o gynghorwyr yn wardiau Cyngor Gwynedd, cynnydd o’r 41 cynghorydd oedd gan y Blaid yn dilyn Etholiad 2017. 69 cynghorydd fydd gan Wynedd, yn dilyn newid ffiniau’r wardiau (6 cynghorydd yn llai na 2017).

 

Wrth ymateb i’r canlyniad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn a enillodd ei sedd yn Nolgellau gyda 85% o’r bleidlais:

 

“Dyma ganlyniad arbennig i’r Blaid yng Ngwynedd – y gorau ers sefydlu Cyngor Gwynedd. Mae’n adlewyrchiad o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad gan Gynghorwyr profiadol ac ymgeiswyr newydd sydd ac angerdd ac uchelgais dros gymunedau a thrigolion Gwynedd. Hoffwn ddiolch o galon i’n holl ymgeiswyr am roi eu henwau ymlaen, am sefyll dros y Blaid ac am eu hymroddiad llwyr i’r gwaith.

 

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n cymunedau am roi eu ffydd ynom ac yn ein hymgeiswyr, ac am droi allan a phleidleisio drosom. Mae nifer o’n wardiau wedi cael mwyafrifoedd nas gwelwyd erioed o’r blaen yng Ngwynedd. Gyda grym daw cyfrifoldeb, ac rydym fel grwp o gynghorwyr yn gwbl ymroddedig i gyflawni ar eu rhan.

 

“Yr hyn sy’n destun balchder i mi yw fod gennym fwy o gynghorwyr ifanc nac erioed o’r blaen a dwi’n eithriadol o falch hefyd o weld cymaint o ferched yn ein rhengoedd. I mi, dyma’r newyddion gorau posib.

 

“Mae pobl ifanc, brwdfrydig yn dod â syniadau newydd a bwrlwm i’r tîm. Mae mwy o ferched yn creu gwell cydbwysedd i’n tîm ni ac yn sicrhau gwell cynrychiolaeth o’n cymunedau ein hunain.

 

“Gyda’r cynghorwyr profiadol sydd gennym hefyd wedi eu hail ethol, mae gennym gymysgedd o’r profiad a’r ffresni, y syniadau a chadernid ar y llyw. Mae gan Blaid Cymru Gwynedd weledigaeth a chyfraniad sylweddol i’w gwneud i ddyfodol y sir yma, i ddyfodol Cymru a thros y Gymraeg.

 

“Edrychwn ymlaen, fel cynghorwyr Plaid Cymru i wasanaethu ein trigolion. Ymlaen!”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-05-17 13:44:54 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd