Capel wedi’i droi’n ganolfan gelfyddydol

Dymchwelwyd Capel Gorffwysfa yn 1982 

Mae’r Festri yn elusen sy'n hyrwyddo a datblygu mentrau a phrosiectau celfyddydol cymunedol ym mhentref Llanberis. 

 

Mae'r fenter gelfyddydol wedi'i lleoli yn hen adeilad festri Capel Gorffwysfa, capel a oedd wedi'i leoli ar Stryd Fawr Llanberis. Fe’i dymchwelwyd ym 1982. 

 

Mae enw’r elusen yn cydnabod gorffennol yr adeilad. Mae'r ‘festri’ yn draddodiadol yn ystafell neu adeilad sy'n perthyn i gapel, a ddaeth yn hanesyddol yn llefydd i gynnal digwyddiadau diwylliannol, cymunedol, ymarferion neu gyfarfodydd. 

 

Roedd adeilad y Festri yn perthyn i Gapel Gorffwysfa, capel Methodistaidd a adeiladwyd ar waelod Goodman Street ym 1867, ac mae ganddo hanes cyfoethog fel cartref i’r Ysgol Sul, Band of Hope, ac ymarferion Band Pres Llanberis. Wedi cyfnod y capel, roedd yr adeilad yn cael ei adnabod fel Theatr Fach, ac yn eiddo i’r elusen Cwmni Drama Llanberis.  

 

Cyn cyfnodau clo Covid roedd y Festri yn ferw o weithgaredd celfyddydol, ac yn cynnal dosbarthiadau celf a syrcas CircoArts ar gyfer pobl ifanc Llanberis, yn ogystal â dosbarthiadau ioga, partïon pen-blwydd, a sioeau cymunedol. Adnewyddwyd yr adeilad yn 2016 gyda chefnogaeth y gymuned ac mae'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr. 

 

Yn ôl Merlin Tomkins, Cadeirydd yr elusen, gweledigaeth y Festri yw “hyrwyddo celf weledol, ddigidol a pherfformio cymunedol mewn ffordd sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru.” Serch hynny, pan ddaeth Covid i droi’n bywydau ben i waered, roedd yn rhaid i’r Festri ddod o hyd i ffyrdd newydd o gynnal eu prosiectau. 

 

Yn gynnar yn y pandemig llwyddodd CircoArts i ddenu arian gan Mantell Gwynedd ac UnLtd er mwyn rhoi offer celf a syrcas am ddim i blant a theuluoedd y Festri. Yn ogystal â hynny, cynhaliwyd dosbarthiadau celf a syrcas ar Zoom, ac fe rhoddwyd arddangosfeydd celf cymunedol yn y blychau ffôn ar Stryd Fawr Llanberis. 

 

Roedd prosiect arall gan y Festri yn annog trigolion Llanberis i arddangos cennin pedr yn eu ffenestri fel symbol o obaith. 

 

Yn ddiweddar, comisiynwyd 3 artist i greu darnau i fynd yn y blychau ffôn yn dathlu hanes diwylliannol a diwydiannol Llanberis fel rhan o gais LleCHI i sicrhau statws Safle Treftadaeth y Byd i’r ardal. 

 

Yn ôl cyfarwyddwr y Festri, Thomasine Tomkins: 

“Pan oedd yn amhosibl i bobol ymweld ag orielau celf, fe aethon ni â chelf at y bobol! 

“Rydyn ni’n teimlo bod gan Y Festri rôl bwysig wrth adfer ar ôl y pandemig. 

 

“Mae’n hanfodol bod gan gymunedau le diogel i ddod at ei gilydd, cysylltu a chymdeithasu. Mae’r Festri yn gobeithio cefnogi’r gymuned gyda phwyslais arbennig ar les a chreadigrwydd.” 

 

Aeth Siân Gwenllian AS, cynrychiolydd Llanberis yn y Senedd draw i’r Festri yn ddiweddar: 

“Roedd festri yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol y Cymry, ac mae ’na deimlad o barhad wrth weld y Festri yn cyflawni ei bwrpas gwreiddiol fel canolbwynt cymunedol a diwylliannol i'r pentref. 

“Mae'r celfyddydau a diwylliant yn rhannau annatod o'n bywydau. Mae’n anodd dychmygu bywyd oni bai am y celfyddydau a diwylliant yn ystod cyfnodau clo Covid. 

 

“Rydan ni'n genedl greadigol, sy'n dod o hyd i atebion creadigol i'r heriau cyson sy'n ein hwynebu, ac mae pentref Llanberis yn wynebu sawl her. 

 

“Mae’r pandemig wedi bod yn ergyd fawr i’r celfyddydau yng Nghymru, ond mae’n codi calon gweld mentrau fel y Festri yn dal ati. 

“Er lles gwytnwch, hyder ac iechyd meddwl ein pobl ifanc, mae’n hanfodol bod prosiectau fel Y Festri yn ffynnu. Maent yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy, sgiliau dadansoddi, a'r gallu i feddwl yn annibynnol i bobol ifanc. 

“Yn ddiweddar rydym wedi bod yn myfyrio ar hanes cyfoethog yr ardal, yng ngoleuni penderfyniad UNESCO i ddynodi ardaloedd llechi Cymru’ yn Safle Treftadaeth y Byd. 

 

“Mae cyfraniad celfyddydol a diwylliannol yr ardaloedd llechi ers dros ganrif yn aruthrol. Mae'n wych gweld Y Festri yn parhau yn y traddodiad hwnnw. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Thomasine Tomkins: 

“Dim ond mewn partneriaeth â chymuned y gall celfyddydau cymunedol lwyddo! Dydi celfyddydau cymunedol ddim jest yn golygu cymryd rhan mewn gweithdai neu ddigwyddiadau, mae'n golygu darparu ffyrdd i estyn allan a dod â gwahanol bobl ynghyd i rannu profiadau, creu hunaniaethau a pherthnasau cadarnhaol, a thrwy hynny greu cymuned gryfach ac iachach.” 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-11-15 16:14:59 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd