Capita dan y lach am gau Canolfan Asesu ym Mangor

Dim asesiad effaith cau'r ganolfan ar bobl fregus medd AS lleol.

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams wedi galw ar Capita, y cwmni sydd â chyfrifoldeb am asesu pobl fregus am Daliadau Annibyniaeth Personol (PIP) i ail-agor eu canolfan asesu ym Mangor ar frys, ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod wedi cau ers mis Tachwedd 2019.

 Mae'r cytundeb rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r darparwr asesu Capita, yn nodi na ddylai hawlwyr orfod teithio am fwy na naw deg munud ar drafnidiaeth cyhoeddus i gael asesiad. Mae Capita rwan yn cynghori hawlwyr bod y canolfannau asesu amgen agosaf yn y Rhyl ac Aberystwyth.

Dywedodd Capita wrth rai hawlwyr PIP (sy'n byw ym Mhen Llŷn), y byddai rhaid iddynt wneud cylchdaith o 140 milltir i'r Rhyl, tra hefyd yn gwrthod cynnal ymweliad cartref.

 

Dywedodd Hywel Williams AS, 

‘Bydd cau’r ganolfan asesu PIP ym Mharc Menai, Bangor heb ddarparu lleoliad amgen addas, yn cael effaith ddifrifol ar bobl sâl ac anabl yn fy etholaeth a’r ardal gyfagos, a fydd rwan yn gorfod teithio y tu allan i’r ardal i fynychu asesiadau.’

'Yn wir, fel y deallaf o drafodaethau gyda’r AS etholaethol cyfagos, Liz Saville Roberts, mae tystiolaeth fod pobl fregus yn cael eu cynghori i deithio am fwy na 90 munud (dros dair awr) ar drafnidiaeth cyhoeddus I dderbyn asesiad yn y ganolfan amgen agosaf yn y Rhyl.’ 

‘Fel y rhan fwyaf o bobl, rwyf wedi rhyfeddu fod y ganolfan wedi cau ei drysau heb unrhyw rybudd cyhoeddus. Beth bynnag fo’r amgylchiadau, mae’n nodweddiadol o doriadau y llywodraeth, gan ychwanegu at y diwylliant o ddiffyg ymddiriedaeth sydd eisoes yn gwaethygu pryder hawlwyr.’

‘Mae rhwymedigaeth gytundebol ar Capita i ystyried anghenion penodol hawlwyr wrth gynnal asesiadau. Mae hyn yn cynnwys lleoli canolfannau asesu mor lleol ac mor gyfleus â phosibl i’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau.’ 

‘Nid yw’r broses asesu yn addas at y diben fel y mae, ac yn lle cefnogi pobl fregus, mae’r broses yn aml yn anynnol, yn wallus ac yn gwaethygu cyflyrau iechyd presennol bobl fregus.’ 

‘Mae Capita wedi cael pedwar mis i ddod o hyd i leoliad arall ym Mangor. Mae’r sefyllfa hon yn achosi pryder difrifol i mi a fy etholwyr, a rhaid i’r llywodraeth egluro ar frys pa ymdrechion sy’n cael eu gwneud i sefydlu canolfannau asesu newydd i ddiwallu anghenion hawlwyr lleol.’

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd