Capita yn cadarnhau fod Canolfan Asesu PIP Bangor yn ail-agor

Hywel Williams AS yn pwyso am leoliad lleol a pharhaol i'r ganolfan. 

Mae Capita wedi cadarnhau eu bod yn ail-agor canolfan asesu PIP Bangor ar ôl arwyddo prydles tri mis yng Nghanolfan Gelf Storiel, tra eu bod nhw'n chwilio am safle parhaol.

Codwyd y mater gyda'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gynharach yr wythnos hon gan Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams ac AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.  

Mae'r ddau Aelod Seneddol bellach wedi galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i gyfarwyddo ei hadran i ddod o hyd i safle lleol addas a pharhaol i ddiwallu anghenion hawlwyr anabl a bregus iawn sy'n byw yng Ngwynedd.

Yn dilyn cau canolfan Bangor, roedd Capita yn cynghori hawlwyr i deithio i Rhyl neu Aberystwyth i fynychu eu hasesiad.

Dywedodd Hywel Williams AS,

'Mae Capita bellach wedi dod o hyd i safle amgen ym Mangor i gynnal asesiadau ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP).'

'Yn ôl yr hyn a ddeallaf, maent wedi sicrhau prydles dros dro yng Nghanolfan Gelf Storiel, wrth iddynt chwilio am ganolfan barhaol yn y ddinas.'

'Yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog Ddydd Mercher, codais fy mhryderon, gan alw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddod o hyd i safle lleol, hygyrch i ddiwallu anghenion hawlwyr anabl a bregus iawn sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru.'

‘Tra fy mod yn croesawu y tro pedol yma, mae'n rhaid ymdrechu rwan i sicrhau lleoliad parhaol ar gyfer y ganolfan, un sy'n lleol ac mor gyfleus â phosib ac sy'n diwallu anghenion penodol hawlwyr.'

‘Byddaf yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud i sicrhau safle lleol, addas a pharhaol i ddiwallu anghenion hawlwyr anabl a bregus.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd