Codiad cyflog i'r GIG yn “annigonol a siomedig” medd AS

Mae Siân Gwenllian AS yn honni nad yw’r codiad cyflog yn adlewyrchu ein diolchgarwch i'r gweithwyr iechyd ar ôl blwyddyn heriol

Mae Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli Arfon yn y Senedd wedi mynegi ei siom ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai’n rhoi'r un codiad cyflog i staff y GIG â Llywodraeth y DU.

 

"Mae Plaid Cymru yn siomedig mai dim ond wedi efelychu cynnig siomedig Llywodraeth Prydain o 3% o godiad cyflog i staff y GIG y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, yn enwedig pan fo Llywodraeth yr Alban eisoes wedi ymrwymo i 4% o godiad cyflog.

 

"Bydd staff ymroddedig y GIG yn edrych ar y cynnig o 4% yn yr Alban ac yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi’u gadael i lawr.

 

"Ers misoedd lawer mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gydsefyll gyda gweithwyr iechyd yng Nghymru ac i gefnogi galwadau penodol undebau llafur y GIG i’r corff Adolygu Cyflogau’r GIG.

 

"Mae ein gwasanaeth iechyd eisoes dan bwysau, ac yn gweithredu heb yr adnoddau a’r staff digonol fel y mae – y peth lleiaf y gallwn ni ei wneud felly yw sicrhau bod ein staff iechyd yn cael cyflog digonol felly.

 

"Tra’n bod ni’n cydnabod y cyfyngiadau yn deillio o lymder y Ceidwadwyr, dylai Llywodraeth Cymru barhau i bwyso ar San Steffan i barchu ein staff iechyd a gofal rheng flaen drwy dalu cyflogau teg iddyn nhw.

 

"Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn briodol wedi tynnu sylw at y ffaith bod y Trysorlys yn disgwyl i chwyddiant ddringo i 3.7%, felly mae Gweinidogion Cymru yn llwyr ymwybodol eu bod yn torri cyflog nyrs brofiadol dros £200 mewn termau real.

 

"Tra bo Arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol y dydd yn San Steffan am y cynnydd o 3% yn Lloegr, mae’n rhagrith llwyr bod ei gydweithwyr Llafur yng Nghymru wedi penderfynu dilyn yr un trywydd â’r Ceidwadwyr yn Lloegr.

 

"Mae hefyd yn destun pryder nad yw Trysorlys Prydain hyd yma wedi rhoi unrhyw wybodaeth ynghylch a fydd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei roi i ariannu’r codiad cyflog uwchlaw y cap o 1% a gyhoeddwyd eisoes yn gynharach eleni.

 

"Gallai hyn arwain at gyllid yn cael ei symud o feysydd eraill cyllideb GIG Cymru i ariannu’r cynnydd.

 

"Bydd Plaid Cymru yn ceisio eglurder ar fyrder ar y mater hwn gan Weinidogion Cymru a Phrydain.

 

"Cytunwn gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol y dylai Trysorlys Prydain ariannu codiadau cyflog sylweddol i wneud iawn am y toriad mewn termau real i gyflogau dros ddegawd a mwy.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-07-28 15:11:48 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd