Coronafeirws ac addysg: Mae angen mesurau newydd.

Plaid Cymru yn amlinellu beth mae angen ei wnud i gadw ein lleoliadau addysgol yn ddiogel.

Mae Plaid Cymru yn dweud bod angen nifer o fesurau cymorth a diogelwch i ymateb i dystiolaeth newydd bod ysgolion yn cyfrannu mwy at drosglwyddiad yn y gymuned nag yr oedd pobl yn ei feddwl i ddechrau.

 

Mae gwybodaeth a rannwyd yn adolygiad diweddar y Grŵp Cynghori Technegol yn dangos lefelau haint uwch mewn ysgolion, gan gynnwys yn asymptomatig, ac mai plant sy'n tueddu i gael eu heintio gyntaf ar aelwydydd.  

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS, Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, fod angen diweddaru'r mesurau diogelwch a roddwyd ar waith ym mis Mehefin yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd "fel mater brys".

 

Dywedodd Ms Gwenllian fod angen cefnogaeth ychwanegol hefyd – yn benodol yn yr ardaloedd hynny â chyfraddau haint uchel ynghyd â niferoedd uchel o ddisgyblion yn hunanynysu oherwydd achosion o Covid-19 mewn ysgolion.

 

Byddai mesurau 'Cadw Ysgolion yn Ddiogel' Plaid Cymru yn cynnwys:

  1. Rhaglenni torfol ar gyfer profi asymptomatig mewn ysgolion a cholegau
  2. Cefnogi staff sy'n glinigol eithriadol o agored i niwed i weithio o gartref
  3. Cymorth ariannol ychwanegol i ymdrin â'r rhaniad digidol
  4. Athrawon ychwanegol ac athrawon llanw ychwanegol
  5. Yr angen am ganllawiau clir ar awyru

 

Mae Ms Gwenllian wedi gofyn i'r llywodraeth ystyried fel dewis olaf – yn enwedig mewn mannau â niferoedd uchel o achosion lle mae'n rhaid i ysgolion aros ar agor – cynnig i gohortau fynychu'r ysgol yn ysbeidiol gan fod yn bresennol/absennol am wythnos neu bythefnos ar y tro.

 

Meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Siân Gwenllian AS,

 

"Mae mesurau 'Cadw Ysgolion yn Ddiogel' Plaid Cymru yn rhoi sylw i'r mater sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd – y ffaith bod ysgolion yn cyfrannu mwy at drosglwyddiad yn y gymuned nag yr oedd pobl yn ei feddwl i ddechrau.

 

"Roedd y mecanweithiau diogelwch a roddwyd ar waith yn ein hysgolion yn ôl ym mis Mehefin yn seiliedig ar dybiaeth nad oedd plant yn cyfrannu at drosglwyddo'r feirws – rydym nawr yn gwybod bod hyn yn anghywir, ac felly mae'n rhaid adolygu'r mesurau diogelwch ym mhob lleoliad addysg.

 

"Mae'r pecyn 'Cadw Ysgolion yn Ddiogel' yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o'r mesurau y mae angen rhoi sylw iddynt mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill i gadw dysgwyr a staff mor ddiogel â phosibl.

 

"Mae hefyd yn rhoi sylw i'r angen i gefnogi'r dysgwyr y mae hyn wedi tarfu waethaf ar eu haddysg, drwy gyflogi athrawon ychwanegol a defnyddio athrawon llanw i'r eithaf i gymryd rhan yn y dysgu cyfunol sydd ei angen mewn llawer o ysgolion.

 

"Mewn mannau lle nad yw'n ddiogel cadw ysgolion ar agor, mae'n rhaid parhau i ddysgu o bell at safon uchel. Mae'n rhaid i'r llywodraeth sicrhau na chaiff unrhyw ddysgwr ei adael ar ôl, a bod prosesau ar waith i sicrhau bod ysgolion yn cadw mewn cysylltiad â'u holl ddisgyblion pan nad ydynt yn yr ysgol. Mae hynny'n dechrau drwy fonitro a mesur y rhaniad digidol yn iawn.

 

"Mae llawer o gamau y gallai ac y dylai'r llywodraeth eu cymryd i ddod â ni'n nes at y targed hwn o ragor o leoliadau addysg sy'n ddiogel o ran Covid. Mae Plaid Cymru wedi rhoi ein barn am yr hyn sydd ei angen mewn ysgolion – nawr, mae drosodd i'r llywodraeth."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-11-24 11:06:52 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd