Cyngor yn galw am gyfyngiad amser ar gadw mewnfudwyr

catrinwager.jpg

Heddiw, mae Cyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid Cymru, y sir gyntaf yng Nghymru i basio cynnig sy’n galw ar Lywodraeth San Steffan i roi stop ar gadw mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid dan glo heb unrhyw gyfyngiad amser.

Mae gan y Cynghorydd Plaid Cymru, Catrin Wager, sy'n cynrychioli trigolion Bangor (Ward Menai) bryderon bod unigolion a myfyrwyr diniwed, sy’n gweithio’n galed yn cael eu cymryd i ganolfannau cadw am gyfnod amhenodol, yn seiliedig ar eu statws mewnfudo’n unig.

Y Deyrnas Gyfunol yw'r unig wlad yng ngorllewin Ewrop sy'n carcharu unigolion am gyfnod amhenodol dan bwerau mewnfudo. Mae'n costio ar gyfartaledd £31,000 i gadw unigolyn dan glo am flwyddyn.

Mae bron i 30,000 o bobl yn cael eu cadw'n flynyddol yn y DU, a rheiny’n aml wedi dioddef o fasnachu arteithio neu dreisio, gyda thua 3,000 yn cael eu cadw dan glo ar unrhyw adeg benodol.

Y gost flynyddol o atal mudwyr yn 2013/14 oedd £ 164.4 miliwn. Rhwng 2012 a 2017, talwyd £21 miliwn fel iawndal i fudwyr am eu cadw'n anghyfreithlon

Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru, Catrin Wager: “Mae'r ffigurau yma’n rhyfeddol mewn cyfnod lle mae cyllidebau'n cael eu torri ar draws pob haen o awdurdod lleol a phan fo gwasanaethau lleol o fewn ein cymunedau’n diflannu.

“Ond yr hyn sy’n bwysicach yn fy marn i, ydi cost ddynol yr arfer yma. Mae nifer o'r bobl sy'n cael eu cadw wedi ffoi o wledydd sydd wedi ei rheibio gan ryfel ac wedi dianc o bob math o wrthdaro gan brofi trasiedïau personol. Mae cadw'r unigolion yma a pheidio cynnig dyddiad rhyddhau iddynt yn ychwanegu at eu trawma.

“Yma yng Nghymru fel cymdeithas, fel cymuned ac fel unigolion, rydyn ni’n trin pobl fel pobl, yn deg, a chyda pharch ac urddas.”

Yn ôl ym mis Gorffennaf, cymrodd y Cynghorydd Catrin Wager ran mewn taith gerdded pum diwrnod dros 60 milltir o'r enw ‘The Refugee Tales Walk’, gan ddechrau ar ei thaith o St Albans i San Steffan er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r mater.

“Roedd yn brofiad pwerus. Wrth gerdded ochr yn ochr â chyn-garcharorion, cawsom ni gyfle i rannu straeon ac ymgysylltu ar lefel ddynol iawn. Dwi'n credu bod y naratif mewnfudo wedi dod yn un eithaf gwenwynig ac rydyn ni’n colli golwg ar y straeon dynol sydd y tu ôl i'r ystadegau.

"Pa farn bynnag sydd gan unrhyw un am fewnfudo, mae'n anodd credu y byddai unrhyw un yn credu bod y system sydd gennym ni rŵan yn deg.

Fydd unigolyn ddim yn gwybod a ydyn nhw am gael eu cadw, ond pan fyddant, maen nhw’n aml yn cael eu tynnu oddi wrth eu bywydau arferol heb ddim ond y dillad sydd ganddynt amdanynt. Nid oes ganddynt syniad lle byddan nhw’n mynd, pa bryd fydd eu hachos yn cael ei glywed, na phryd byddan nhw’n cael eu rhyddhau.

"Mae teuluoedd yn cael eu chwalu ac mae'r trawma ar yr unigolion sy’n cael eu rhoi dan glo a'r rhai maen nhw’n eu gadael ar ôl, plant yn arbennig, yn aruthrol.

“Mae system gyfiawnder y wlad yma’n seiliedig ar yr egwyddor bod unigolyn yn ddieuog nes ei brofi'n euog, ond o fewn y system fewnfudo, ymddengys mai’r gwrthgyferbyniad sy’n wir. Byddai llofruddiwr euog yn ateb achos llys o flaen rheithgor, yn derbyn dedfryd ac yn gallu cyfri’r dyddiau nes iddo/iddi gael ei ryddhau. Fodd bynnag, os ydych wedi'ch rhoi dan glo dan y broses fewnfudo, does gennych ddim syniad o ddyddiad rhyddhau - cynsail niweidiol iawn.

Yn ôl Hywel Williams AS Arfon: “Mae pobl sydd â’r hawl i ymladd am gael aros yn y DU yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol mewn amgylchiadau cwbl anaddas - am fisoedd a hyd yn oed blynyddoedd. Mae'r rhain yn cynnwys teuluoedd â phlant ifanc. Mae hyn yn staen budr ar ein system fewnfudo annynol.

"Ni ddylid trin, hyd yn oed pobl y dylid eu halltudio, fel hyn. Mae’r ffaith bod yr un driniaeth yn cael ei rhoi ar blant a’i rhieni sy'n cael caniatâd i aros ar ôl apeliadau llwyddiannus, yn gamddefnydd llwyr o’r pŵer.

“Mae'n amlwg yn tynnu ysbrydoliaeth o bolisi 'dim goddefgarwch' Mrs May tuag at fewnfudo pan oedd hi'n Ysgrifennydd Cartref. Dwi’n cymeradwyo fy nghydweithwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd am wthio am y newid hwn o du’r llywodraeth."

Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai EM, Cyngor y Bar, Cymdeithas Feddygol Prydain yn ogystal â sefydliadau hawliau dynol fel Amnest Rhyngwladol, Liberty, Human Rights Watch a hyd yn oed Tŷ'r Arglwyddi yn galw am i'r arfer hwn ddod i ben gan gyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod.

Yn ôl y Cynghorydd Wager: "Rŵan ydi'r amser i weithredu. Mae’r Ddeddf Mewnfudo newydd fel rhan o Brexit yn gyfle perffaith i gyflwyno terfyn amser penodol o 28 diwrnod ar gadw unigolion. Dwi’n falch heddiw, bod Cyngor a arweinir gan Blaid Cymru Gwynedd, yn arwain y ffordd ledled Cymru trwy bwyso ar Lywodraeth San Steffan i roi'r gorau i’r arfer anghyfiawn hon o gadw pobl dan glo yn ddiamod.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.