Croeso cynnes gan AS lleol i gynllun tai cymdeithasol newydd ym Methesda

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams wedi canmol ‘ansawdd uchel a manylder’ cynllun tai cymdeithasol newydd ym Methesda, sydd â’r nôd o ddiwallu anghenion cynyddol teuluoedd lleol ar restr aros awdurdodau lleol. 

Cafodd yr Aelod Seneddol lleol daith o amgylch Llety’r Adar ar safle Hen Orsaf ym Methesda a fydd, pan fydd wedi ei gwblhau, yn cynnwys pum byngalo i’r henoed a deuddeg tŷ gyda gerddi preifat a llefydd parcio. 

Mae’r cynllun newydd a ddatblygwyd gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin ac y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn y gwanwyn yn ceisio mynd i’r afael â’r prinder cartrefi bach a canolig 2 i 3 ystafell wely yn yr ardal ar gyfer teuluoedd, cyplau a’r henoed. 

Dywedodd Hywel Williams AS: 

‘Mae croeso mawr i ddatblygiad tai cymdeithasol Llety’r Adar ar safle’r Hen Orsaf ym Methesda a bydd yn helpu i liniaru peth o’r pwysau sylweddol am dai cymdeithasol ym Methesda a’r cymunedau cyfagos.’ 

‘Mae’r rhain yn gartrefi o’r safon uchaf, wedi’u hadeiladu i weddu â’r amgylchedd naturiol lleol ac yn adlewyrchu hanes hir yr ardal gyda’r diwydiant llechi. Byddant yn gartrefi delfrydol i’r rhai sydd ar y rhestr dai leol.’ 

‘Bydd y cartrefi hyn yn helpu i fynd i’r afael ag angen tai lleol allweddol a chreu cartrefi o ansawdd uchel wedi’u hadeiladu i’r safonau diogelwch ac ynni gwyrdd uchaf, gan sicrhau eu bod nid yn unig yn fforddiadwy i’w rhentu, ond yn fwy fforddiadwy i’w rhedeg.’ 

‘Roeddwn wrth fy modd yn cael fy nhywys o gwmpas y safle ac mae’n wych gweld y prosiect yn mynd rhagddo’n dda. Diolchaf i Grŵp Cynefin am eu gweledigaeth wrth gyflwynor prosiect hwn ac ir holl bartneriaid a fu’n ymwneud â dylunio ac adeiladu’r cartrefi newydd hyn y mae dirfawr angen amdanynt.'

Dywedodd Mel Evans, Cyfarwyddwr Arloesedd a Thŵf Grŵp Cynefin: 

'Roedd yn wych croesawu Hywel Williams AS i weld datblygiad newydd Grŵp Cynefin ym Methesda.' 

'Mae’r cyfarfodydd cyhoeddus i gyflwyno cynllun Llety’r Adar ar safle’r Hen Orsaf i’r gymuned leol wedi bod yn ofnadwy o boblogaidd ac yn gyfle i egluro union sut i ddod ar y rhestrau tenantiaeth mewn digon o bryd.'

'Rydyn ni yn falch o allu cynnig tai o’r safon yma a'r amrywiaeth yma yn gartrefi i bobol leol ardal Bethesda.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-05-17 13:34:48 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd