Croeso newydd i dwristiaid Gwynedd ac Eryri?

Mae arweinydd y Blaid yng Ngwynedd yn croesawu trafodaeth aeddfed ac agored gyda chymunedau lleol a phartneriaid sy’n rhan o’r sector dwristiaeth yng Ngwynedd, i gynnig croeso newydd i ymwelwyr â’r ardal.
 
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn sy’n arwain y Blaid ar Gyngor Gwynedd, mae’n amser cynnig atebion hirdymor i gymunedau lleol, i fusnesau sy’n ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth ac i gyfarch yr effaith mae gor-dwristiaeth yn ei chael ar y sir.
 
“Fel arweinydd y Cyngor, yn yr ardal hon, dwi ddim yn meddwl bod neb yn gweld bai ar yr ymwelwyr sy’n heidio yma i fwynhau ein mynyddoedd a’n traethau wedi cyfnod hir o gyfyngiadau Covid19 a bod dan glo. Yn wir, dwi’n annog ymwelwyr i ddod yma i fanteisio ar ein hasedau naturiol hyfryd ond dwi yn awyddus i bwysleisio bod rhaid iddyn nhw barchu ein cymunedau a’n hamgylchedd
 
“Mae’r digwyddiadau dychrynllyd yn Aberdyfi dros y Sul (26 Gorff) yn ein hatgoffa i barchu’r rhybuddion ac i barchu natur – nid pwll nofio yw’n moroedd a’n haberoedd ond dyfroedd peryglus. Defnyddiwyd tri hofrennydd a bad achub yr RNLI i achub unigolion o’r môr yn Aberdyfi ac mae’n diolch i’r unigolion dewr hynny sy’n mentro eu bywydau eu hunain, er lles y rhai a oedd mewn trafferthion, yn ddibendraw.
 
“Wrth i’r niferoedd ymwelwyr gynyddu eleni, mae rhaid i ni ystyried nad yw mwy o’r un fath yn dderbyniol bellach, ac mae’r argyfwng yma yn gyfle i ni edrych eto ar sut ydyn ni’n rheoli’r diwydiant ymwelwyr sy’n cael cymaint o effaith ar gefn gwlad.
 
Yng Nghyngor Gwynedd mae gwaith eisoes ar droed i ddatblygu syniadau am dwristiaeth gwir gynaliadwy sy’n dod â budd i’n cymunedau ac i’n hamgylchedd. Mewn oes ble mae angen i ni ostwng ein hallyriadau carbon nid yw’n dderbyniol parhau â’r hen drefn o weld miloedd o geir yn teithio ar hyd ein ffyrdd i fwynhau ein traethau, dyffrynnoedd a’n mynyddoedd.
 
“Rhan o’r ateb yw i ni reoli mynediad a chreu trafnidiaeth gyhoeddus hwylus wedi ei redeg ar Hydrogen wedi ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy lleol,” meddai’r Cynghorydd Siencyn. “I wneud hynny byddai angen buddsoddiad sylweddol ac mae angen manteisio ar ffynonellau ariannol o’r ddwy lywodraeth yng Nghaerdydd ac yn Llundain.
 
“Mae angen sicrhau fod y diwydiant yn cynnig gyrfa o safon i drigolion Gwynedd. Galwedigaeth sy’n talu cyflogau da yn hytrach na dibynnu ar waith tymhorol ar gyflogau isel. Dyna un o’m gweledigaethau i, fel arweinydd y Blaid yng Ngwynedd. Mae angen i’r diwydiant adlewyrchu ein diwylliant, ein treftadaeth, a’n traddodiadau gan roi’r Gymraeg yn ganolog yn y gwaith o rannu ein hanes a’n dyfodol.
 
“Gyda bri ar dwristiaid yn ymweld â Gwynedd, daw â chost sylweddol i’n gwasanaethau cyhoeddus; o glirio a chasglu sbwriel, i drwsio llwybrau, i gyflogau wardeiniaid a chadw cyfleusterau cyhoeddus i safon. Yn anffodus, cost sy’n cael ei ysgwyddo gan drethdalwyr yr ardal yw hon.
 
“Mae pryder hefyd bod nifer fawr o ymwelwyr yn teithio yma am y diwrnod heb gyfrannu fawr ddim at yr economi lleol. Siawns felly y byddai’n rhesymegol i ofyn iddyn nhw dalu am y fraint o ddefnyddio ein hasedau gwerthfawr?
 
“Gall hyn fod ar ffurf treth twristiaeth fel sy’n gyffredin ar gyfandir Ewrop neu’r syniad o godi tâl mewn ffurf arall trwy ddefnyddio technoleg arloesol sydd bellach ar gael. Mae angen y drafodaeth gyda’n Llywodraeth i geisio ffordd ymlaen a dwi’n awyddus i gychwyn y drafodaeth honno yn gynt yn hytrach na’n hwyrach.
 
“Wrth edrych ar effaith COVID19 ar ein hardaloedd, daeth yn fwy amlwg nag erioed o’r blaen fod ein heconomi gwledig yn llwyr ddibynnol ar y diwydiant ymwelwyr. Er hynny mae’n rhyfeddol fod lefelau incwm ein teuluoedd ymysg yr isaf yn y wlad. Dydi hynny ddim yn deg, ddim yn gynaliadwy nac yn dderbyniol. Rhaid gofyn y cwestiwn beth yw’r gwir fudd i’n trigolion lleol?
 
“Rhaid i ni hyrwyddo economi llawer mwy amrywiol gan hybu busnesau sydd ddim yn ddibynnol ar ymwelwyr, yn unig. Yn y dyddiau newydd yma o weithio o gartref, mae ganddon ni gyfleon gwych i sefydlu busnesau arloesol a chyffrous o bob math.
 
“Dyw Gwynedd ddim yn unigryw fel cyrchfan poblogaidd i dwristiaid. Mae lleoliadau eraill ledled Cymru yn wynebu’r un broblem, ac mae trafferthion yn codi mewn rhannau o’r Alban, Ardal y Llynnoedd, Cernyw a Dyfnaint.
 
“Dwi’n awyddus i gynnal trafodaeth aeddfed, gan dynnu partneriaid ynghyd a sicrhau bod ein cymunedau ni, ar lawr gwlad, yn ganolog i unrhyw newidiadau arfaethedig. Trwy gydweithio y sicrhawn fod Gwynedd yn parhau yn lleoliad gwerth chweil i ymweld â hi, yn sir economaidd hyfyw, ond yn fwyaf oll, yn gartref cysurlon i’n trigolion lleol, ledled y sir.”

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.