Cwmni padiau brec o Gaernarfon yn ehangu - croeso gan yr AS lleol

Friction Technology yn chwifio baner Gogledd Cymru fel arweinydd yn y diwydiant ffrithiant.

Bu Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams, ar ymweliad arbennig â’r gwneuthurwr teclynnau ffrithiant diwydiannol o Gaernarfon, Friction Technology, wrth i’r busnes lleol ymgartrefu mewn adeilad newydd ac ehangu ei farchnad allforio fyd-eang. 

Cafodd Hywel Williams AS daith o amgylch yr adeilad a’r peiriannau gweithgynhyrchu newydd gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Derek Weir a gyd-sefydlodd Friction Technology yn 2003 gan dynnu ar ei brofiad helaeth yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu breciau, yn enwedig ei amser gyda Friction Dynamics (FERODO) yng Nghaernarfon. 

Mae'r busnes, sydd bellach yn cyflogi ugain o weithwyr llawn amser, yn cynhyrchu padiau brêc diwydiannol, disgiau ffrithiant, disgiau torri gêr a deunyddiau rholio, gan wasanaethu'r diwydiannau morol, amaethyddiaeth, modurol, tyrbinau gwynt, adeiladu, a phriffyrdd. 

Mae cynhyrchion Friction Technology yn cael eu hallforio yn rhyngwladol gan gynnwys i gwsmeriaid yn yr UDA, y DU, Ewrop a Tsieina.  

Dywedodd Hywel Williams AS: 

‘Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Friction Technology yn eu safle gweithgynhyrchu newydd yng Nghaernarfon a gwnaeth eu peiriannau gweithgynhyrchu arloesol newydd a’u hymrwymiad parhaus i gyflogaeth leol argraff fawr arnaf.’ 

‘Ers fy ymweliad diwethaf ac er gwaethaf heriau Covid a Brexit, maent wedi ehangu’n sylweddol a bellach yn cyflogi ugain o bobl, gan dyfu o nerth i nerth ac wedi ymrwymo i roi cyfleoedd gyrfa gwych i bobl ifanc leol.’ 

‘Mae Friction Technology yn gwmni pwysig i economi Gwynedd ond yr hyn sy’n gwneud i’r cwmni sefyll allan yw bod eu gwybodaeth eang o’r diwydiant heb ei ail a’u harbenigedd yn gonglfaen i’w llwyddiant parhaus.’ 

'Mae Brexit yn anochel wedi dod â'i heriau ei hun, gan roi cwmnïau sydd wedi'u lleoli yn y DU o dan anfantais gystadleuol i'w cymheiriaid yn yr UE.' 

'Fodd bynnag, mae buddsoddiad Friction Technology mewn technoleg gweithgynhyrchu a gwybodaeth heb ei hail o'r diwydiant wedi galluogi'r busnes lleol i oroesi'r storm, gan sicrhau bod Friction Technology yn parhau i fod ar flaen y gad yn y diwydiant.' 

'Rwy'n edrych ymlaen at weld y busnes yn adeiladu ar ei lwyddiant a pharhau i chwifio'r faner dros Gaernarfon a gogledd Cymru fel arweinwyr ym maes gweithgynhyrchu padiau brêc a ffrithiant.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-05-17 13:41:19 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd