Cydnabyddiaeth i wasanaeth dosbarthu prydau bwyd yn Arfon.

Siân Gwenllian a Hywel Williams yn diolch i griw Age Cymru Gwynedd a Môn.

Mae cynllun dosbarthu prydau bwyd dyddiol i bobl hŷn yn Arfon a Môn wedi derbyn canmoliaeth gwleidyddion lleol wrth i Siân Gwenllian a Hywel Williams ymweld â chanolfan Age Cymru, Bontnewydd sydd wedi bod yn darparu dros 350 o brydau poeth yn wythnosol i bobl leol ers cychwyn y pandemig o’u canolfannau ym Montnewydd a Phenygroes yn ogystal a chinio Nadolig trwy fis Rhagfyr. 

 

Mae’r ganolfan hefyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Bontnewydd i ddarparu cinio poeth i drigolion yr ardal sydd dros saith deg oed bob Dydd Gwener trwy fis Rhagfyr. 

 

Mae’r ganolfan wedi gweld cynnydd parhaol yn y galw am y gwasanaeth ac yn ddibynnol ar haelioni gwirfoddolwyr i ddosbarthu’r bwyd ledled yr ardal, gan gynnwys y Cynghorydd Peter Garlick sydd wedi bod yn dosbarthu prydau o gwmpas Bontnewydd.     

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS, 

 

‘Roedd yn bleser ymweld â chanolfan Age Cymru, Bontnewydd i weld y gwaith caled tu ôl i’w cynllun dosbarthu bwyd. Mae’r ymroddiad i helpu pobl, yn enwedig y rhai sy’n oedrannus, yn fregus neu sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod caled hwn, yn gwbl amlwg.’  

 

‘Mae gwasanaethau cymunedol o’r math yma wedi bod yn achubiaeth i lawer o’n hetholwyr mwyaf bregus, yn enwedig i’r rhai sydd wedi bod yn hunan-ynysu am resymau iechyd.’     

  

‘Mae llawer o bobl yn parhau i fod yn bryderus ynghylch mentro allan i fannau cyhoeddus fel archfarchnadoedd, felly bydd parhau i dderbyn prydau i’w drws yn rhoi’r sicrwydd iddynt.’ 

 

‘Mae’r mentrau cymunedol hyn wedi codi ar draws yr etholaeth fel ymateb tosturiol a gofalgar i'r pandemig, ac mae wedi codi calon i weld pobl leol yn tynnu at ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.’ 

  

‘Hoffwn dalu teyrnged i’r holl staff a gwirfoddolwyr sydd ynghlwm â chynllun dosbarthu bwyd Age Cymru, boed yn staff y gegin sy’n paratoi’r prydau neu’r gyrwyr sy’n eu dosbarthu i drigolion lleol.’   

  


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-12-14 11:23:21 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd