Cyflwyno £1,040 i elusen cancr lleol

Pasiodd yr ymgyrch y targed gwreiddiol

Llwyddodd yr ymgyrch i basio’r targed gwreiddiol i gefnogi elusen cancr lleol.

 

Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd a San Steffan, ac mae eu hapêl Nadolig wedi codi £1,040 i Gafael Llaw, elusen sy’n cefnogi plant yng Ngwynedd ac Ynys Môn gyda chanser.

 

Mae gwaith yr elusen yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth ariannol i Ward Dewi Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl a’r elusen Clic Sergant.

 

Mae’r elusen wedi cynnal nifer o weithgareddau ers ei sefydlu, gyda llawer ohonynt yn derbyn sylw cenedlaethol, gan gynnwys Tour de Cymru, taith feicio 650 milltir o amgylch ysbytai plant Cymru. Cododd yr elusen dros £110,000 yn ystod ei dwy flynedd gyntaf.

 

Wrth drafod yr ymgyrch, dywedodd Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon:

 

“Fe lawnsion ni’r ymgyrch yn gynnar ym mis Rhagfyr, gan osod targed gwreiddiol o £300.

 

“Roeddan ni wrth ein boddau i gyrraedd y targed hwnnw’n fuan, cyn gosod targed newydd o £1,000, a chyrraedd y targed hwnnw hefyd.

 

“Mae’r elusen yn achos mor deilwng, elusen sy’n cefnogi teuluoedd lleol mewn sefyllfa anhygoel o anodd. Rwy’n gobeithio y bydd y £1,040 yn mynd rhywfaint o’r ffordd i gefnogi eu gwaith da.”

 

Aeth yr ASau lleol draw i gwrdd ag Iwan Trefor Jones ac Anne Owen o Gafael Llaw i gyflwyno’r siec. Treuliodd Anne, sy’n gwirfoddoli â Gafael Llaw, 45 mlynedd fel nyrs ar wardiau plant.

 

Yn ôl Hywel Williams AS:

 

“Rwy’n falch iawn bod ein hapêl Nadolig wedi bod mor llwyddiannus a hoffwn ddiolch i bawb a gyfranodd mor hael.

 

“Mae’n dyst i’r parch mawr sydd gan y gymuned leol at Gafael Llaw.

 

“Rwy’n gobeithio y bydd yr arian yn cyfrannu at leddfu’r baich sydd ar bobl ifanc gyda chanser a’u teuluoedd.”

 

Ychwanegodd llefarydd ar ran Gafael Llaw:

 

“Pwrpas Gafael Llaw yw cefnogi y gofal I blant efo cancr yn lleol.

 

“Mae’r elusen wedi ariannu nifer o welliannau yn Ward Dewi, Alder Hey yn Lerpwl ac yn cefnogi gweithgareddau Clic Sargent yn lleol.

 

“Rydym yn hynod werthfawrogol o gyfraniad ariannol gan Blaid Cymru Arfon. Bydd hyn o gymorth I ni wrth barhau efo’n hymdrechion I wneud gwahaniaeth positif I fywydau plant a phobl ifanc yr ardal.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2022-01-26 09:44:15 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd