Cyhoeddiad ail gartrefi yn "hynod siomedig" yn ôl AS

Dywed Siân Gwenllian AS fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys.

 

Mae Siân Gwenllian wedi ymateb i gyhoeddiad Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS ar gynlluniau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai ddoe.

 

Mae Aelod o’r Senedd dros Arfon yn honni bod y cynlluniau’n “annigonol ac yn niwlog.”

 

Dywedodd Siân Gwenllian, sydd hefyd yn weinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr iaith Gymraeg;

 

“Mae cyhoeddiad ddoe yn hynod siomedig - nid cynllun mohono, ond tri datganiad diffygiol ac amwys, heb fanylion.

 

“Ni fyddant yn mynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau.

 

“Nid rŵan ydi’r amser i gynnal comisiwn ac ymgynghoriad, rŵan ydi’r amser ar gyfer y gweithredu ystyrlon a radical sydd ei angen ar ein pobl ifanc.

 

“Dywedodd etholwr yn Llanberis wrthyf yr wythnos hon bod y sefyllfa yn y pentref yn ‘dorcalonnus’, a’i fod yn gwneud i bobol leol fod isio symud i ffwrdd.

 

“Mewn blwyddyn yn unig, mae 5 tŷ ar ei stryd wedi’u troi yn ail gartrefi neu dai haf. 

 

“Dywedodd fod tai o’r fath, sy’n wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, yn newid gwead cymdeithasol y pentref.

 

“Mae Plaid Cymru wedi chwarae rhan adeiladol wrth bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn cefnogi cymunedau sy'n dioddef o ganlyniad i effeithiau ail gartrefi.

 

“Ond roedd y cyhoeddiad ddoe yn ergyd i’r rhai sydd wedi bod yn aros yn amyneddgar am newid go iawn.

 

“Mae yna bethau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith, a bydd Plaid Cymru yn parhau i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i newid y deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi, ynghyd â chaniatáu i gynghorau godi premiwm treth gyngor o hyd at 200 y cant ar ail gartrefi.

 

“Dylai’r Llywodraeth dreblu’r ffi Treth Trafodiad Tir ar brynu ail eiddo, cau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail gartref gofrestru eu heiddo fel “busnes ”, a grymuso cynghorau i adeiladu tai ag amodau lleol.

 

“Yn lle cynnig newid ystyrlon, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau â’u geiriau gwag, anelwig.

 

"Mae amser yn brin. Mae’n pobl ifanc yn haeddu teimlo bod eu Llywodraeth ar eu hochr nhw."

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-07-07 15:39:24 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd