AC Arfon yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllideb brys ar gyfer porthiant anifeiliaid fferm

Gwynedd_Watkin_Pyrs_Jones_a_Si♪n_Gwenllian.jpg

Yn dilyn ymweliad a fferm yn ymyl Rhostryfan yn etholaeth Arfon, dywed Aelod Cynulliad yr ardal fod rhaid i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth ariannol brys i ffermwyr sydd yn cael trafferth cynhyrchu bwyd i’w hanifeiliaid. Mae’r trafferthion yma yn dilyn y tywydd eithafol rydym ni wedi ei brofi eleni wedi cyfyngu ar gynhyrchu porfa a stoc bwyd.

Bu Sian Gwenllian yn ymweld a Bod Garad gan glywed am y trafferthion sydd yn wynebu Pyrs Owen Jones.

Mae tywydd garw y ‘Beast From The East’ ar ddechrau’r flwyddyn a ddilynwyd gan dywydd anarferol o sych a phoeth yn ystod yr haf wedi torri ar gynhyrchiad silwair ac wedi cynyddu costau bwydo anifeiliaid. Gan na ddaw cefnogaeth ariannol yr haf i law tan ddiwedd y flwyddyn mi fydd ffermwyr yn wynebu trafferthion ariannol ac ymarferol wrth iddynt geisio canfod porthiant digonol a fforddiadwy ar gyfer eu hanifeiliaid.

Dywed Pyrs Jones: ‘Fydd gen i ddim dewis ond gwerthu anifeiliaid ynghynt nag arfer gan obeithio y caf bris teg am y cynnyrch. Yr amser yma llynedd roeddwn wedi cynaeafu 400 o fyrnau mawr o silwair. Ond eleni dim ond 225 a lwyddais eu gwneud ac rwyf wedi defnyddio 50 yn barod.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi lansio cynllun yn cynnig cymorth ariannol i ffermwyr, ond mae Llywodraeth Lafur Cymru eto i wneud unrhyw ddatganiad am gymorth ariannol i ffermwyr Cymru.

Dywed Plaid Cymru bod angen i’r llywodraeth weithredu ar fyrder er mwyn sicrhau nad yw ofnau gwaethaf ffermwyr yn cael eu gwireddu.

Meddai Siân Gwenllian AC:

“Mae blwyddyn o dywydd eithafol wedi arwain at gostau yn mynd drwy’r to i ffermwyr ar hyd a lled Cymru.

“Fel calon ein cymunedau a’n heconomi wledig mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod ein ffermydd yn cael eu cefnogi’n ddigonol.

“Fel mae’r sioeau amaethyddol yn mynd rhagddynt dros yr haf, mae pryderon am yr argyfwng arfaethedig ynghylch porthiant i’w teimlo ymhobman.

“Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cynllun benthyciadau tebyg i’r hyn sydd ar gael yn yr Alban. Mae gofyn hefyd iddo ddarparu cefnogaeth ymarferol i ffermwyr ganfod a chludo porthiant digonol yn hwyrach yn y flwyddyn.

“Er mwyn ein cymunedau gwledig mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ‘rwan gyda chymorth ariannol brys.”

Yn ôl Gwynedd Watkin, swyddog gweithredol sirol Caernarfon Undeb Amaethwyr Cymru:

‘Nid yn unig budd gan Mr Jones gostau uwch dros y misoedd nesaf, mae hefyd yn colli incwm yn sgil y ffaith na fydd yn cymeryd defaid cadw dros y gaeaf ac rydym yn erfyn ar y llywodraeth i gynorthwyo’r diwydiant yn y cyfnod pryderus yma.’

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd