Cyngor Gwynedd yn croesawu newidiadau i ganllawiau grantiau busnes.

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi addasu eu canllawiau gwreiddiol ar gyfer darparu grantiau i gynorthwyo busnesau bach sydd yn dioddef yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.

Rhai wythnosau yn ôl, roedd Cyngor Gwynedd wedi adnabod y byddai canllawiau gwreiddiol Llywodraeth Cymru wedi golygu y byddai perchnogion ail gartrefi a oedd wedi trosi eu heiddo yn fusnes er mwyn osgoi talu unrhyw dreth hefyd yn gymwys i dderbyn grant o £10,000. Byddai hyn wedi costio rhwng £15miliwn a £20miliwn i’r pwrs cyhoeddus yng Ngwynedd yn unig.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Nid oeddem fel Cyngor yn ystyried bod y canllawiau gwreiddiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn briodol gan y byddent wedi galluogi perchnogion ail gartrefi yn y sir i hawlio grant o £10,000.

“Fel Arweinydd y Cyngor, fe godais y mater gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James yn ysgrifenedig ac mewn trafodaethau. Mewn ymateb, fe wnaeth y Gweinidog newid y canllawiau ar gyfer gweithredu’r cynllun grant.

“Tra nad oeddem yn cytuno gydag union eiriad y newidiadau i’r canllawiau a gynigiwyd gan y Llywodraeth, rydym yn hyderus bod y geiriad newydd yn golygu na fydd perchennog unrhyw ail gartref yn gallu hawlio arian grant heb gyflwyno tystiolaeth bod y rhan helaeth o’u hincwm yn deillio o’r eiddo.   

“Fel Cyngor rydym yn falch bod y gweinidog wedi gwrando arnom ac wedi derbyn ein dadleuon. O’r herwydd ni fydd y pwrs cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gyfoethogi’r rhai hynny sydd eisoes yn defnyddio rheolau Llywodraeth Cymru i osgoi talu trethi ar ail gartrefi.

“Wrth gwrs, yn wahanol i ail gartrefi, mae busnesau gosod unedau gwyliau gwirioneddol yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn yr arian yma, a byddwn yn eu hannog i gyflwyno cais i’r Cyngor os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.” 

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd