Cynnydd mewn ffioedd dysgu - Barn Myfyriwr ym Mangor

Llun_-_Picture_-_Owen.jpg

Mae cyhoeddiad y Blaid Lafur yng Nghymru eu bod am godi ffioedd dysgu o 2018 ymlaen a hynny’n dilyn ymgyrch etholiadol ble wnaeth Llafur addewid i gael gwared ar ffioedd dysgu yn llwyr wedi cynddeiriogi AC Arfon Sian Gwenllian, sydd a dinas Bangor a’i phrifysgol yn ei hetholaeth.

“Rydw i wedi derbyn nifer fawr o negeseuon gan fyfyrwyr ym Mangor a gan ddisgyblion ysgol sydd yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol,” meddai Sian Gwenllian. “Yn ystod yr etholiad fe ysbrydolwyd nifer fawr o bobol ifanc ar hyd a lled y wlad i gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth unwaith eto oherwydd eu bod yn gweld y posibilrwydd y byddai polisiau yn cael eu rhoi mewn lle a fyddai’n adlewyrchu eu gwerthoedd nhw. Teimlaf bod y bobol ifanc rheiny wedi cael eu gadael i lawr yn ofnadwy gan wleidyddion, ac rydw i’n gwybod o fod wedi siarad efo nhw pa mor siomedig maen nhw’n teimlo.”
Un myfyrwyr sydd yn teimlo fel hyn yw Owen Hurcum sydd hefyd yn Gynghorydd Tref Dinas Bangor dros Blaid Cymru, ac mae o wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn mynnu esboniad am y datganiad annisgwyl a ddaeth wrth i’r tymor ddod i ben, gan ei gwneud hi’n anos fyth i fyfyrwyr drefnu eu hymateb.
“Rydw i eisioes wedi siarad gyda nifer o fyfyrwyr sydd yn ei chael hi’n anodd ariannu eu cyrsiau fel mae hi heb son am pan fyddan nhw’n ddrytach fyth – sut mae’r llywodraeth yn awgrymu mae’r myfyrwyr yma i fod i ddod i ben a’r cynydd newydd yma?” gofynai Owen Hurcum. “Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi bradychu cenhedlaeth o bobol ifanc a mi ddylent fod a chywilydd.”
Mae Plaid Cymru wedi pleidleisio’n gyson yn erbyn cyflwyniad ffioedd dysgu a’r cynnydd yn eu cost ac yn ystyried yr hawl i bawb gael addysg am ddim yn egwyddor sylfaenol pan fydd arian yn caniatau. Mae arweinydd y blaid Leanne Wood wedi ysgrifennu at Jeremy Corbyn yn gofyn pam nad yw ei bolisiau yn cael eu gweithredu yma yng Nghymru ble mae yma lywodraeth Lafur a’r cyfle i wneud hynny.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd