Ddim yn aelod? Dim problem! Digwyddiad i drafod annibyniaeth

Mae digwyddiad wedi'i drefnu i drafod Annibyniaeth a'r Comisiwn Annibyniaeth.

Bydd digwyddiad Plaid Cymru Arfon yn cael ei gynnal ddydd Gwener (04.12.20) am 19:00 PM, ac mae'n cynnwys siaradwyr gwadd o'r Comisiwn Annibyniaeth a YesCymru, yr ymgyrch dros Gymru annibynnol.

 

Sefydlwyd y comisiwn annibyniaeth yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU ym mis Rhagfyr 2019, a hynny er mwyn cynhyrchu argymhellion ar ffyrdd y dylai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru baratoi ar gyfer cynnal refferendwm ar annibyniaeth.

 

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad mae Elfyn Llwyd, cyn fargyfreithiwr ac Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, a Siôn Jobbins, Cadeirydd Yes Cymru.

 

Cynhelir y digwyddiad wedi i YesCymru gyrraedd dros 15,000 o aelodau ym mis Tachwedd.

 

Mae trefnwyr y digwyddiad wedi pwysleisio nad oes angen i'r mynychwyr fod yn aelodau o YesCymru na Phlaid Cymru.

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-12-01 15:26:19 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd