Elfed Wyn Williams
Mae Elfed yn hogyn o Ddeiniolen, ac mae wedi cynrychioli bro ei febyd ar y Cyngor ers 2012.
Rhai o lwyddiannau Elfed:
- Gwella diogelwch y tu allan i Ysgol Gwaun Gynfi: tri set o oleuadau arafu traffig, arwyddion newydd a chyflymder gorfodol o 20 m.y.a.
- Chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau ymweliadau wythnosol gan y Post Symudol.
- Arwain y gwaith o adfer canolfan Tŷ Elidir a’i ddod yn nôl i ddefnydd cymunedol yn 2014.
- Sicrhau llawer o waith adfer a thrwsio i ffyrdd, pontydd a llwybrau’r ardal yn sgil llifogydd 2012.
- Aelod o’r Pwyllgor Diffibriliwr – wedi chwarae rhan wrth sicrhau ‘diffib’ yn Garej Arfon, Tŷ Elidir, Caffi Lodge Dinorwig a Garej Beran.
- Pwyso a sicrhau gwaith sylweddol i wella stadau tai lleol, gan gynnwys
- Cynllun dreifs a waliau yn Pentre Helen- cydweithio efo Adra a’r Cyngor i greu 50 o dreifs a waliau newydd ar y stad.
- Cynllun ffensiau a llwybrau yn Rhydfadog – cydweithio efo Adra i sicrhau ail-ffensio a gosod llwybrau newydd safonol ar y stad.
- Sicrhau gosod ‘flood barriers’ i ddiogelu tai ar Stad Faenol.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter