Diffyg darpariaeth Gymraeg yn golygu bod cleifion yng Nghymru yn cael “gwasanaeth eilradd”

sian_gwenllian_cynulliad.jpg

Mae’r diffyg darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i gleifion meddygon teulu yng Nghymru yn golygu fod pobl yn cael gwasanaeth eilradd, medd Plaid Cymru.

Bydd ACau Plaid Cymru heddiw yn cyflwyno gwelliant i ddadl Ceidwadwyr Cymru ar iechyd a gofal cymdeithasol, yn galw ar unrhyw gynlluniau ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog.

Bydd y gwelliant hefyd yn galw am fanylion am sut y gellir annog a chefnogi staff presennol y GIG i ddysgu Cymraeg.
Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd Sian Gwenllian AC ac ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros yr iaith Gymraeg,
“Dyw hi ddim yn dderbyniol fod gennym GIG o hyd sy’n methu deall pwysigrwydd dwyieithrwydd yng ngofal cleifion. Mae’r diffyg darpariaeth iaith yn golygu bod cleifion yng Nghymru yn cael gwasanaeth eilradd.


Cafwyd dirywiad sylweddol yn nifer y meddygon teulu Cymraeg eu hiaith dros y pum mlynedd a aeth heibio. Dengys ystadegau Llywodraeth Cymru o Stats Cymru fod nifer y meddygon teulu Cymraeg eu hiaith wedi cwympo o 384 i 358 rhwng 2012 a 2017. Mae diffyg data ar nifer y staff GIG Cymraeg eu hiaith y tu allan i feddygfeydd meddygon teulu ac mewn gofal cymdeithasol hefyd yn achos pryder.


Mae hyd yn oed fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ei hun Mwy na Geiriau / More than Words yn nodi bod angen i rai cleifion Cymraeg eu hiaith megis plant dan bump oed neu gleifion dementia neu iechyd meddwl fynegi eu hunain trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf.


Mae darpariaeth iaith Gymraeg yn hawl ac yn angen mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’n hynod siomedig fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi pleidleisio yn erbyn sicrhau bod yn rhaid i feddygon teulu orfod darparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg ac nad ydynt wedi bod yn barod i wrando ar bryderon go-iawn fod Safonau’r Iaith Gymraeg ar eu ffurf bresennol yn anwybyddu hawl y claf i gyfathrebu yn ei iaith gyntaf wrth dderbyn gofal wyneb yn wyneb.
Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud ei gorau glas i ddod o hyd i atebion creadigol a’r ewyllys gwleidyddol sydd ei angen i amddiffyn a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg”.


Mae’r gwelliannau hefyd yn galw am agor canolfan addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru er mwyn sicrhau fod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arnynt.
Dywedodd Sian Gwenllian, sydd hefyd yn AC Plaid Cymru dros Arfon:
“Gwyddom fod gan Gymru lai o feddygon y pen o boblogaeth na’r rhan fwyaf o Ewrop, ac yn y gogledd, mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth, gyda rhyw 47% o feddygon yn ardal Dwyfor yng Ngwynedd yn nesau at oedran ymddeol.
“Mae’n bryd cyflwyno’r achos busnes a gwireddu Ysgol Feddygol Bangor fel rhan o gynllun hyfforddi meddygon dros Gymru gyfan.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd