YMGYRCH DIM PEILONAU
Y GRID YN ILDIO I BWYSAU LLEOL A RWAN YN FFAFRIO CEBL DAN AFON MENAI
HYWEL WILLIAMS YN CROESAWU’R NEWID MEDDWL OND YN RHYBUDDIO FOD Y FRWYDR YN ERBYN PEILONAU YN PARHAU
Mae AS Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi croesawu penderfyniad y Grid Cenedlaethol i beidio codi peilonau dros Afon Menai fel ‘buddugoliaeth gynta’ i’r ymgyrch, Dim Peilonau, ond yn rhybuddio fod y frwydr yn erbyn peilionau i fyny i Bentir yn parhau.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch gref gan bobol leol wedi ei harwain gan Hywel Williams AS fel cadeirydd y grŵp Dim Peilonau.
Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y Grid Cenedlaethol eu bod nhw nawr yn ffafrio cario trydan o dan, yn hytrach na dros y Fenai, gan roi’r gorau i’w cynnig gwreiddiol i godi rhesiad arall o beilonau dros y tirlun eiconig.
Er gwaethaf hyn, mae Hywel Williams AS wedi galw am bwyllo, gan ddweud fod angen eglurder o ran lle yn union y bydd y mannau croesi.
Dywedodd Hywel Williams AS,
“Mae hon yn fuddugoliaeth arwyddocaol i’r ymgyrch Dim Peilonau.
Mae cyhoeddiad y Grid Cenedlaethol eu bod nhw nawr yn ffafrio cario trydan o dan, yn hytrach na dros yr Afon Menai, yn newyddion i’w groesawu. Mae nhw wedi ildio ar eu cynnig gwreiddiol, i godi rhesiad arall o beilonau.
Mae ‘na wrthwynebiad lleol chwyrn wedi bod i gynigion y Grid. Mae’r ymgyrch Dim Peilonau dwi’n ei gadeirio wedi gweithio’n galed yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus, yn egluro’r problemau fydd yn cael eu hachosi, yn ymchwilio ac yn codi cwestiynau seneddol ac yn cyfarfod cynrychiolwyr o’r Grid. Rydym yn gadarn o’r farn y dylai trydan o Ynys Môn gael ei gario drwy gebl dan y môr. Ond mae’r penderfyniad yma yn cydnabod yr egwyddor na ddylai peilonau fod y dewis cyntaf bob tro.
Ychwanegodd Hywel Williams,
Er gwaethaf y newid meddwl rhannol yma gan y Grid, dw i’n dal yn bryderus y gallai fod ‘na broblemau. Dydi’r Grid ddim yn glir lle bydd y pwyntiau croesi. A fydd ‘na beilonau ar bob ochr y Fenai, ac i fyny i Bentir?
Yr Ymgyrch
Does dim amheuaeth na dadl bod angen dull o gario peth wmbrath o drydan o Gymru i’r farchnad. Mi fydd Plaid Cymru yn parhau gyda'r ymgyrch.
Y cwestiwn i ni ydi Sut?
Faint ddylid ei wario a phwy sy’n penderfynu?
Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cynnig nifer o opsiynau, pob un yn croesi Ynys Môn, yr holl ffordd tros y Fenai ac ymlaen i Bentir, ac i gyd ar beilonau.
Ein barn ni yw dylai’r Grid Cenedlaethol gysidro linc o dan y môr o ogledd Ynys Môn i Lannau Dyfrdwy a/neu Sir Benfro. Ar hyn o bryd, tydi’r Grid heb hyd yn oed gynnig hyn fel posibilrwydd. Maent yn dweud ei fod yn rhy gostus.
Fel Cadeirydd Ymgyrch Dim Peilonau, rwy’n pwyso i gael linc o dan y môr. Ni fydd trigolion Gogledd Orllewin Cymru yn elwa dim o’r peilonau yma ond yn hytrach, bydd yn effeithio ar y diwydiannau awyr agored a thwristiath ynghyd â’r ymyrraeth weledol.
Cadwch lygaid allan am y cyfarfod nesaf o’r grwp Dim Peilonau.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter