AC Sian Gwenllian yn galw am godi ymwybyddiaeth ac am well gwasanaethau lleol i ddioddefwyr Dystonia

Sian_Gwenllian___Ann_Pierce-Jones.jpg

Mae claf yng Nghaernarfon sydd yn dioddef o’r clefyd Dystonia yn mynnu cyfarfod efo pennaethiaid Betsi Cadwaladr er mwyn trafod y diffygion yn y gwasanaeth sydd ar gael iddi yn lleol. Mae AC Arfon Sian Gwenllian yn cefnogi cais Ann Pierce-Jones  o Gaernarfon a gafodd ddeiagnosis o’r cyflwr 4 blynedd yn ol. Bwriad y ddwy yw i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd cymheth yma sydd yn effeithio tua 70,000 o bobol yn y DU.

“Dydi’r niferoedd sydd yn byw gyda’r cyflwr yma fawr llai na’r niferoedd sydd yn dioddef o MS neu glefyd Motor Neurone, ond rydan ni’n gwybod llawer mwy am y cyflyrau rheiny nag ydan ni am Dystonia,” meddai Sian Gwenllian.
“Mae gen i 11 achos yn fy etholaeth ac mae’n bosib iawn bod llawer mwy yn datblygu’r cyflwr heb yn wybod iddyn nhw neu yn aros deiagnosis.”
Mae Dystonia yn gyflwr niwrolegol sydd yn gallu bod yn etifeddol ac mae’n achosi i’r cyhyrau ysgwyd neu gloi sy’n golygu nad oes gan ddioddefwyr reolaeth dros symudiadau eu corff. Gall eu cyhyrau gael eu tynnu allan o siap sy’n golygu bod gwddf neu ysgwydd dioddefwr yn gallu aros wedi ei droi i un ochr am byth.
Dechreuodd Ann Pierce-Jones, 55, o Gaernarfon gael symudiad ac ysgwyd yng nghyhyrau ei gwddf pan roedd yn 29 oed a oedd yn golygu bod ei gwddf a’i hysgwydd yn dechrau troi i’r chwith.

“Mae’n glefyd sydd yn gwneud i chi deimlo’n unig iawn,” meddai Ann Pierce-Jones. “Heblaw am un grwp gwirfoddol yn Llandudno ychydig iawn o gefnogaeth leol sydd ar gael i’r rhai ohonom sydd a’r cyflwr yma, ac ychydig iawn o ddealltwriaeth o sut gyflwr ydi o. Mae’r blinder a’r boen sydd yn dod gyda’r cyflwr mor anodd eu rheoli, ac mae yna ddyddiau pan dwi’n ei chael hi’n anodd i adael y ty.”

Mae Ann yn teithio nol a blaen i Walton yn Lerpwl i gael y sylw arbenigol mae hi ei angen ond yn teimlo’n gryf bod angen rhagor o gefnogaeth yn lleol.

“Dwi’n derbyn mai yn Walton mae’r arbenigedd, ond mae yna wasanaethau atodol a allai gael eu cynnig yn lleol, fel cownsela neu ffisiotherpai niwrolegol a’r triniaethau rheiny sy’n rheoli symptomau fel pigiadau Botox sydd yn ymlacio’r cyhyrau. Mae pigiadau Botox ar gael yn lleol ond rhai cyffredinol ydyn nhw yn hytrach na rhai arbenigol. Mae’r ‘tremors’ a ‘spasms’ mae dioddefwyr Dystonia yn eu dioddef yn gymhleth iawn ac yn dibynnu ar bigiadau cywir er mwyn cael y canlyniadau gorau. Mae’r gwasanaeth pigiadau yn Walton wedi bod yn rhedeg ar 6 mis rhwng pigiadau yn hytrach na’r 3 mis sydd ei angen.”

Medd Sian Gwenllian, “mae pobol fel Ann sydd yn byw efo Dystonia yn aml yn teimlo eu bod ar eu pennau eu hunain, maen nhw’n teimlo’n bryderus ac yn ofnus yn aml iawn, ac mae teimladau felly yn rwystr iddynt gadw eu hegnion ac ymroi yn llwyr i’w gwellhad eu hunain. Hoffwn weld llawer mwy o ymwybyddiaeth o’r cyflwr yma a’r hyn mae’n ei olygu i’r rhai sy’n byw efo fo o ddydd i ddydd. Hoffwn weld rhagor o gefnogaeth yn lleol fel nad yw dioddefwyr yn teimlo eu bod ar eu pennau eu hunain. Mae Ann wedi cael dyddiad ar gyfer triniaeth DBS (Deep Brain Surgery) ac mi fydd yn cael y llawdriniaeth 5 awr ar Dachwedd 14eg. Mae diffygion y gwasanaeth yn lleol, yr aros rhwng sesiynau Botox a phwysau gwaith ac ystyron ariannol wedi golygu bod Ann yn teimlo mai dyma’r unig ffordd ymlaen iddi erbyn hyn.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd