Diweddariad: Dos atgyfnerthu brechlyn Covid-19

Dyma ddiweddariad ar y dos atgyfnerthu brechlyn Covid-19 gan swyddfa Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS;

 

Rydym yn deall, yn unol â chyngor gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), fod y bwrdd iechyd lleol yn cynnig brechiadau atgyfnerthu Covid-19 i'r grwpiau canlynol o bobl, os yw o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos: 

 

  • Y rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl ar gyfer oedolion hŷn; 
  • Pob oedolyn dros 50 oed; 
  • Gweithwyr rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol; 
  • Pawb rhwng 16 a 49 oed gyda chyflwr iechyd isorweddol sy’n eu rhoi mewn risg uwch o Covid-19 difrifol (fel yr amlinellir yn y Llyfr Gwyrdd), a gofalwyr oedolion; ac   
  • Oedolion sydd â chysylltiad ag unigolion â system imiwnedd gwan. 

 

Y bwlch o chwe mis rhwng yr ail ddos a'r pigiad atgyfnerthu yw'r argymhelliad cyfredol gan y JCVI, grŵp ledled y DU sy'n cynghori adrannau iechyd y DU ar y rhaglen frechu. 

 

Nid oes angen cysylltu â'ch meddyg teulu na chanolfan frechu i drefnu apwyntiad - cysylltir â chi'n uniongyrchol trwy lythyr neu neges destun/galwad ffôn. 

 

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu a gwiriwch fod unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn dod o ffynhonnell ddilys. Ni ofynnir i chi dalu am y brechlyn nac am unrhyw fanylion ariannol pan drefnir eich apwyntiad.

 

Mae mwy o fanylion ar gael yn fan hyn: 

https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/gwybodaeth-dos-atgyfnerthu-brechlyn-covid-19/ 

 

Dim ond os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad erbyn chwe mis ac wythnos ers eich ail frechiad Covid-19 y dylech ffonio 03000 840004 i ofyn am apwyntiad. 

 

Rydym yn deall na fydd yn arferol i roi pigiad ffliw a’r brechiad atgyfnerthu Covid-19 ar yr un pryd, ond gall fod nifer fach o achosion lle mae amseru a logisteg yn caniatáu i'r bwrdd iechyd lleol wneud hyn. Yn ôl cyngor Llywodraeth y DU, mae'n ddiogel cael y ddau ar yr un pryd. Os oes gennych unrhyw bryderon am y brechiad ffliw a’r brechiad atgyfnerthu Covid-19, trafodwch y rhain gyda'ch meddyg teulu. 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-10-22 12:12:18 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd