Diwrnod agored canolfan gelfyddydol newydd Bangor

Mae’r AS lleol yn honni y bydd y ganolfan newydd yn “rhoi profiadau gwerthfawr i bobl ifanc yr ardal”

Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd canolfan gelfyddydau creadigol newydd yn cael ei hagor mewn eglwys hanesyddol ym Mangor.

 

Ddoe agorodd Nyth, canolfan gelfyddydau newydd yn hen Eglwys y Santes Fair ym Mangor ei drysau i’r cyhoedd.

 

Nyth fydd pencadlys diweddaraf Cwmni Frân Wen, cwmni theatr “gyffrous, heriol ac ysbrydoledig i bobl ifanc.”

 

Agorwyd drysau’r adeilad ar Ffordd Garth i roi cyfle i'r cyhoedd weld y cynlluniau ar gyfer y ganolfan newydd, cynlluniau sy'n cynnwys gofod perfformio ac ymarfer, stiwdio lai yn y seler, gofodau swyddfa a gofodau cymunedol hyblyg.

 

Mynychwyd y diwrnod agored gan yr Aelod lleol o’r Senedd, Siân Gwenllian, sydd hefyd yn llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg.

 

Dywedodd;

 

“Mae'r celfyddydau a diwylliant yn rhannau annatod o fywydau pawb.

 

“Yn enwedig yng Nghymru, rydyn ni’n genedl lle mae diwylliant yn greiddiol i’n ffordd o fyw.

 

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, bûm yn trafod fy mhryder ynghylch effaith andwyol y pandemig ar ddiwydiant celfyddydau Cymru, felly mae’n wych cael achos i ddathlu.”

 

Mae Cwmni’r Frân Wen wedi sicrhau £1.8m gan y Loteri Genedlaethol, a weinyddir trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, £1.2m trwy Gyngor Gwynedd gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, £200,000 gan Sefydliad Garfield Weston a £10,000 gan Sefydliad Pennant.

 

Ychwanegodd yr AS;

 

“Mae’r cynlluniau’n gyffrous ac yn uchelgeisiol ac heb os, bydd y ganolfan yn rhoi profiadau gwerthfawr i bobl ifanc Bangor.

 

“Does ’na ddim modd rhoi pris ar y rôl mae’r celfyddydau yn ei chwarae ym mywydau pobl.

 

“Dyna pam fy mod i wedi galw’n ddiweddar am Gronfa Gweithwyr Llawrydd i gefnogi gweithwyr llawrydd Cymru i weithio yn y gymuned ac mewn ysgolion.

 

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau yn dwyn ffrwyth, a hoffwn ddymuno'n dda i Frân Wen.”

 

Mae Frân Wen wedi rhyddhau datganiad gan eu Cyfarwyddwr Gweithredol, Nia Jones;

 

“Rydym yn deall pwysigrwydd yr adeilad hanesyddol yma i’r gymuned leol felly maen hynod o bwysig i ni roi’r cyfle yma i bobl ddod i weld yr adeilad cyn i’r gwaith datblygu gychwyn.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-07-30 11:58:02 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd