Ffigurau tlodi bwyd yn arwydd o “fethiant mewn arweinyddiaeth” medd AS

Mae Siân Gwenllian AS yn honni bod “datrysiadau ymarferol” nad ydynt yn cael eu rhoi ar waith

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon yn ymateb i astudiaeth newydd gan Brifysgol Sheffield ar ystadegau “ansicrwydd bwyd” yn y DU.

 

Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at ardaloedd yn y DU lle mae trigolion yn ei chael hi'n fwyaf anodd fforddio neu gael gafael ar fwyd. Yn ôl Prifysgol Sheffield, mae’r astudiaeth yn bwrw goleuni ar y rhai sy’n “profi newyn, i’r rhai sydd un argyfwng i ffwrdd o fynd heb fwyd.”

 

Mae'r wybodaeth ar gael yn ôl awdurdodau lleol.

 

Yn un o bob chwech o'r ardaloedd hynny, mae cyfraddau tlodi bwyd yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o fwy na 150%. Dywed yr ymchwilwyr eu bod yn gobeithio y bydd yr astudiaeth “yn helpu awdurdodau lleol ac asiantaethau’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r broblem ar lefel leol.”

 

Mae ymchwilwyr wedi disgrifio “ansicrwydd bwyd” fel “yr anallu i fforddio, cael mynediad at, a defnyddio’r bwyd sydd ei angen i gynnal iechyd a lles da yn gyson.”

 

Mae’r ystadegau yn cynnwys “oedolion sy’n llwgu oherwydd nad oedd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta” ac roedden nhw'n gywir ym mis Ionawr 2021.

 

Rhoddwyd y ffigurau mewn tri chategori, sef;

  • “yn llwgu”, yn methu â bwyta bwyd oherwydd nad oeddent yn gallu ei fforddio neu am nad oeddent yn gallu cael mynediad at fwyd.
  • “yn cael trafferth”, y sawl sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar fwyd, yn cynnwys y rhai a allai fod wedi ceisio cymorth yn ystod y mis diwethaf gyda mynediad at fwyd, y rhai sydd wedi gorfod lleihau prydau bwyd a bwydydd iach i ymestyn eu cyllideb, neu’r rhai sy’n nodi eu bod yn cael trafferth cael gafael ar fwyd mewn rhyw ffordd .
  • “yn bryderus”, y rhai sy'n poeni am allu parhau i gyflenwi digon o fwyd i’r cartref.

 

Rhannwyd y categorïau hynny ar raddfa o 5 haen.

 

Mae’r Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon yn ardal awdurdod lleol Gwynedd wedi ymateb, wedi iddi ddod i’r amlwg bod Gwynedd yn yr haen uchaf mewn dau gategori, ac yn y pedwerydd haen mewn un.

 

“Mae’r ffigurau hyn yn dorcalonnus. Y tu ôl i'r ystadegau mae ’na bobl go iawn, a theuluoedd go iawn, naill ai'n ei chael hi'n anodd bob dydd i roi bwyd ar y bwrdd neu'n byw mewn pryder cyson.

 

“Bydd pawb yn condemnio’r ystadegau, ond y gwir plaen ydi nad ydi ansicrwydd bwyd yn anochel. Mae modd ei osgoi.

 

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dangos methiant llwyr mewn arweinyddiaeth, ac mae datrysiadau ymarferol nad ydyn nhw'n cael eu rhoi ar waith.

 

“Yn ôl yn 2020, datgelodd y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant nad oes gan fwy na hanner y plant yng Nghymru sy’n byw o dan drothwy tlodi’r DU hawl i brydau ysgol am ddim.

 

“70,000 o blant.

 

“Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau cyson Plaid Cymru i ymestyn y meini prawf cymhwyso. Maen nhw'n honni bod costau ariannol yn rhwystr.

 

“Ond y gwir amdani ydi, pe bai’r ewyllys wleidyddol yno, a phe bai’n fluoridate i Lywodraeth Cymru, byddai’n cael ei roi ar waith yn syth.

 

“Dylai’r ystadegau hyn ddwyn cywilydd ar Lywodraeth Cymru.

 

“Mae angen gweithredu ar frys.”

 

Mae’r data, a fodelwyd gan the Food Foundation, ar gael fel map yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-07-28 09:58:05 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd