ffordd glir ymlaen yn sgil cau deintyddfa yng Nghaernarfon’ medd AS lleol.

Mae Siân Gwenllian AS yn dweud bod cau deintyddfa yng Nghaernarfon yn symptomatig o broblemau tymor hir ym maes gofal ddeintyddol.

Dywedodd Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru, bod ‘angen ffordd glir ymlaen’ wrth ymateb i gau deintyddfa Bupa Dental Care yng Nghaernarfon.

 

Cyhoeddwyd wrth staff deintyddfeydd Bupa ym Mae Colwyn a Chaernarfon yr wythnos ddiwethaf y bydd y deintyddfeydd yn cau ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

 

Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Siân Gwenllian, wedi ymateb;

 

‘Mae’r newyddion y bydd deintyddfa Bupa ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yn cau yn siom enfawr. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu gyda mi yn mynegi eu pryder, ac yn anffodus, nid yw’r newyddion yn syndod imi.

 

‘Rwyf wedi bod yn gohebu gyda chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd a’r Gweinidog Iechyd ers imi gael fy ethol yn haf 2016 yn gofyn am ddiweddariad ynglŷn â pha gamau mae’r Bwrdd Iechyd am eu cymryd i fynd i’r afael â phrinder difrifol o wasanaethau gofal ddeintyddol yn Arfon.  

 

‘Yn ôl ym mis Gorffennaf 2016 codais bryderon ynghylch diffyg deintyddfeydd yng ngogledd Cymru sydd yn fodlon cymryd cleifion y GIG.

 

‘Mae’r cyhoeddiad hwn yn un ergyd arall.’

 

Mae sylwadau’r AS yn dod yng ngoleuni datganiad heddiw (16.11.20) gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) fod deintyddfeydd yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd ar ffraciswn yn unig o’u capisiti, oherwydd y pandemig. Mae’r gymdeithas yn rhybuddio y gallai cannoedd o ddeintyddfeydd gau o fewn y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Arfon;

 

‘Rwyf wedi gofyn i’r bwrdd iechyd lleol am ddiweddariad brys ar eu cynlluniau i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon a’r camau sydd am eu cymryd i sicrhau bod cleifion y GIG yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol eraill yn ddi-oed. 

 

Rwy’n gofidio yn enwedig, wrth gwrs, am y rhai na allant fforddio gwasanaethau iechyd preifat ac sydd felly'n dibynnu'n llwyr ar wasanaethau'r GIG. 

 

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau deintyddol digonol ar gael ar gyfer pobl yr ardal hon.’

 

Mae’n debyg y bydd cau’r deintyddfeydd yn effeithio ar dros 20,000 o gleifion, ond mae’r cwmni wedi gwrthod cadarnhau’r niferoedd.

 

Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;

 

‘Mae’n ymddangos fod gorddibyniaeth ar y sector breifat wedi arwain at fylchau enfawr yn y ddarpariaeth gwasanaeth pan fydd cwmnïau'n dewis cau canghennau.

 

Mae angen i Lywodraeth Cymru gael cynllun hir-dymor i fynd i’r afael â’r heriau hyn.’

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-11-17 10:28:10 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd