UAC yn rhannu pryderon am ymgynghoriad Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy gyda AC Arfon

FUW_Sian_Gwenllian_meeting.jpg
Pryderon ynghylch ymgynghoriad ‘Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy, Llywodraeth Cymru oedd prif ffocws trafodaethau diweddar rhwng Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru, Gwynedd Watkin ac AC Arfon, Sian Gwenllian, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Roedd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ddiwedd mis diwethaf, yn cynnwys ystod amrywiol o feysydd gan gynnwys mynediad cyhoeddus i dir a dyfrffyrdd, tynnu dŵr, amaethyddiaeth a choedwigaeth - i enwi ond ychydig.

 

Cynigion penodol gan gynnwys caniatáu beiciau mynydd ar bob llwybr cyhoeddus, caniatáu i bobl wersylla a chwarae gemau lle bynnag y maent yn dymuno ar dir mynediad agored, a chaniatáu i ganŵ-wyr fynd ar ddyfrffyrdd sy’n cael eu defnyddio at ddibenion pysgota.

 

"Er bod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, mae’r natur y ddogfen a’i hamrywiaeth, yn ogystal â’r cynigion a gyflwynir yn parhau i fod yn destun pryder mawr i ystod eang o bobl,” dywedodd Gwynedd Watkin.

 

"Yn ogystal â derbyn galwadau gan aelodau, mae cerddwyr, pysgotwyr, coedwigwyr a pherchnogion gwersylloedd, yn ogystal â chynrychiolwyr awdurdodau lleol wedi cysylltu gyda UAC, gyda phawb yn tu hwnt o bryderus am y cynigion," ychwanegodd.

 

Yn ei ymateb i'r ymgynghoriad, gwrthododd UAC y mwyafrif llethol o'r cynigion, gan fynegi pryderon mawr am y diffyg tystiolaeth neu asesiadau effaith ynglŷn â newidiadau eithafol sydd a ôl-effeithiau eang yn y nifer helaeth o achosion.

 

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Sian Gwenllian: "Roeddwn yn falch o drafod agweddau o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru gyda UAC.

 

"Blaenoriaeth Plaid Cymru ar gyfer mynediad i gefn gwlad yw gwneud defnydd gwell o chwarter ein gwlad sydd eisoes wedi'i ddynodi fel tir agored ac i annog mwy o ddefnydd o'r rhwydwaith llwybrau troed a llwybrau ceffylau presennol," ychwanegodd.

 

Dywedodd Gwynedd Watkin y byddai UAC yn parhau i godi pryderon ynghylch yr ymgynghoriad, a gobeithio na fyddai'n gosod cynsail ar gyfer ymgynghoriadau yn y dyfodol.

 

"Fel y nodwyd yn ein hymateb, mae natur anhysbys y ddogfen ymgynghori o ran ei amrywiaeth, amseriad, maint, amwyster a diffyg tystiolaeth ac asesiadau effaith rheoleiddiol yn tanseilio pwrpas democrataidd ymgynghori cyhoeddus."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd