Gallai ddifyg gwersi wedi'u ffrydio'n fyw olygu bod plant yng Nghymru'n cael eu gadael ar ôl

Mae Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru Sian Gwenllian AS wedi ysgrifennu at Weinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, i fynegi pryder bod rhai plant yn cael eu gadael ar ôl gan nad yw eu hysgolion yn cynnig gwersi wedi'u ffrydio'n fyw.

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer ailagor ysgolion.

Nid yw'r 'Fframwaith Penderfyniadau ar gyfer Cyfnod Nesaf Addysg a Gofal Plant - Dull graddol o ddychwelyd mwy o blant i addysg neu ofal plant wyneb-yn-wyneb' yn gosod dyddiadau penodol i ailagor ysgolion, ond mae'n enwi pum egwyddor arweiniol a fydd yn pennu pryd a sut y bydd ysgolion yn ailagor.

Meddai Sian Gwenllian AS, er ei bod yn croesawu'r "pwyll" y mae'r fframwaith yn ei ddangos, ei bod yn "hollbwysig" bod plant yn cael cyfle cyfartal tra eu bod yn dal i gael eu cadw draw o ysgolion.

Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid y dylai fod canllawiau amddiffyn plant ar waith ym mhob ysgol i ganiatáu ffrydio gwersi yn fyw. Dywedodd Ms Gwenllian y byddai rhyngweithio byw fel hyn rhwng disgyblion ac athrawon yn "anhygoel o werthfawr" o ran y lefelau rhyngweithio mae'n eu sicrhau, yn enwedig i'r plant sydd leiaf tebygol o gymryd rhan mewn mathau eraill o ddysgu.

Pwysleisiodd Ms Gwenllian, nes ei bod yn ddiogel i blant a staff addysgol fynychu ysgolion, bod angen darpariaeth ac ymgysylltiad digonol rhwng disgyblion ac athrawon i gadw'r maes chwarae'n wastad, ac i sicrhau na chaiff plant o gefndiroedd difreintiedig eu "gadael ar ôl".

Pwysleisiodd Ms Gwenllian hefyd pa mor bwysig yw sicrhau bod system effeithiol o brofi, tracio ac olrhain ar waith cyn ailagor ysgolion i sicrhau diogelwch disgyblion, staff addysgol a'u cymunedau.

Meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru Sian Gwenllian AS,

"Mae cau ysgolion yn achosi niwed sylweddol - mae rhai plant yn cael eu cam-drin gartref yn ystod y cyfyngiadau symud heb rwyd ddiogelwch yr ysgol sy'n gallu tynnu sylw'r gwasanaethau cymdeithasol, bydd y bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng plant o gefndiroedd incwm isel a rhai o deuluoedd mwy cefnog yn lledu, yr hiraf y bydd ysgolion yn aros ar gau.

"Er bod croeso mawr i agwedd bwyllog at ailagor ysgolion, rhaid i ni sicrhau hefyd ein bod yn gwneud y gorau o'r sefyllfa hon lle bydd llawer o blant gartref am sbel. Ni ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl.

"Rhaid i'r Gweinidog Addysg annog ffrydio gwersi yn fyw. Mae'r math hwn o ryngweithio byw rhwng disgyblion ac athrawon yn anhygoel o werthfawr o ran y lefelau rhyngweithio mae'n eu sicrhau, ond wrth gwrs mae'n rhaid ei wneud mewn ffordd ddiogel. Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd ddoe'n amlinellu protocolau ar gyfer ffrydio byw diogel. Nawr, mae angen i'r Gweinidog fynd ati i annog pob ysgol i gyflwyno gwersi byw ar fyrder, fel na chaiff unrhyw blentyn ei adael ar ôl.

"Mae'n hollbwysig bod rhaglen lwyddiannus Profi, Olrhain ac Amddiffyn ar waith cyn ailagor ysgolion. Mae angen i'r rhaglen hon fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'n rhaid ei rhoi ar waith yn briodol cyn gynted â phosibl. Fel arall, ni fydd yn ddiogel i blant a staff ddychwelyd i ysgolion."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd