Gallai'r bil cwricwlwm newydd "danseilio" darpariaeth Gymraeg.

Mae Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, wedi annog Llywodraeth Cymru i oedi cyn cyhoeddi eu Bil Cwricwlwm drafft newydd ymysg pryderon y gallai danseilio cynlluniau trochi Cymraeg awdurdodau lleol, ac achosi goblygiadau dinistriol i ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion.

 

Mae Ms Gwenllian yn galw am oedi cyn cyhoeddi'r Bil er mwyn cynnal sgyrsiau priodol, gan gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid perthnasol, i benderfynu sut i liniaru'r goblygiadau negyddol posibl hyn i ddarpariaeth Gymraeg.

 

Mae asesiad risg sy'n ymwneud â'r Bil Cwricwlwm newydd yn dweud mai cyrff llywodraethu ysgolion, nid awdurdodau lleol, fydd yn gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn â pholisïau iaith ysgolion pan ddaw'r ddeddfwriaeth newydd i rym.

 

Dadleuodd Ms Gwenllian fod hyn yn gweithio'n groes i ymdrechion awdurdodau lleol i gyrraedd targed tymor hir Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yng Ngheredigion, mae cyfradd y siaradwyr dwyieithog 7 oed dros 80%, sy'n adlewyrchu llwyddiant y cynllun trochi Cymraeg yno yn ystod y cyfnod sylfaen.

 

Mae AS Plaid Cymru wedi codi'r mater â Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, ac â'r Gweinidog Addysg i sicrhau y bydd y Bil yn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg, yn hytrach na'i wanhau, ond mae'r Llywodraeth wedi penderfynu bwrw ymlaen a chyhoeddi'r Bil drafft beth bynnag.

 

Meddai Aelod o'r Senedd a Gweinidog yr Wrthblaid Plaid Cymru dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg, Sian Gwenllian,

 

"Mae angen gohirio'r Bil Cwricwlwm newydd nes bod asesiad trwyadl wedi'i gynnal ar ei effaith ar addysg Gymraeg.

 

"Un elfen ar y ddeddfwriaeth newydd sydd wedi achosi pryder arbennig yw'r bwriad i roi cyfrifoldeb dros bolisi iaith Gymraeg i gyrff llywodraethu unigol, yn hytrach nag awdurdodau lleol.

 

"Byddai pob corff llywodraethu'n gallu penderfynu a ydynt am ddilyn polisïau trochi ai peidio yn ystod y Cyfnod Sylfaen; byddai hynny'n tanseilio polisïau iaith cadarn llawer o awdurdodau lleol yn llwyr, ac yn ergyd ddifrifol i ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

 

"Mae angen rhoi sylw priodol i'r mater hwn ac mae angen gwrando ar randdeiliaid yn ystod y broses hon cyn cyhoeddi'r Bil drafft.

 

"Rydym eto fyth yn wynebu brwydr arall dros ein hiaith."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.