Galw am sicrwydd i wasanaeth Feddygol iaith Gymraeg

Llun_-_Picture_-_Sian_Gwenllian_-_Meddygfa_Dolwenith.jpg

Mae AC Arfon yn galw am sicrwydd gan Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru a Gweinidog Cysgodol Llafur ar Iechyd bod gwasanaethau meddygol cyfrwng Cymraeg yn mynd i barhau i fod ar gael i bobl Dyffryn Nantlle yn dilyn ymddeoliad buan yr unig feddyg yn yr ardal sydd yn siarad Cymraeg.

“Rydw i wedi ysgrifennu at Vaughan Gething y Gweinidog Iechyd ym mis Ebrill,” meddai Siân Gwenllian, “yn mynegi pryder bod y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg yn mynd i gael ei golli pan fydd Dr Morris o Feddygfa Dolwenith yn ymddeol. Nid wyf wedi derbyn ymateb er imi ysgrifennu ato am yr eildro yn ddiweddar.

Codais y mater gyda Chadeirydd a Phennaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Mai ac fe wnaethon nhw addewid y byddant yn edrych mewn i’r mater ond nid wyf wedi clywed unrhyw newyddion pellach wedi hynny. Ysgrifennais at Brif Weithredwr eto yn ddiweddar yn gofyn am eglurhad.
Mae cynghorwyr lleol ac etholwyr wedi bod yn codi’r mater ac yn aros am newyddion, ac mae Comisiynydd y Gymraeg wedi addo gwneud ymholiadau.

Mae’n hollbwysig bod plant a’r henoed yn cael y cyfle i drafod eu materion meddygol yn eu hiaith gyntaf, ac mae’r diffyg gwybodaeth gan yr awdurdodau ynglŷn â beth sydd yn debygol o ddigwydd yn ychwanegu at y pryderon yn lleol. Mae’n rhaid cael sicrhad cyn gynted ag y bo modd.
Yn yr hirdymor, yr ateb yw hyfforddi mwy o feddygon Cymraeg eu hiaith mewn ysgol feddygol ym Mangor, ymgyrch yr wyf wedi bod yn eu hyrwyddo ers fy ethol yn AC dros Arfon.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd