Gwasanaeth Bysus Arfon
A.S. LLEOL YN RHOI CYCHWYN I WASANAETH BYSYS NEWYDD LLANBERIS
Lansiodd AS Arfon Hywel Williams yn swyddogol heddiw (26.01.15) wasanaeth bysiau newydd i Lanberis. Bydd yn gwasanaethu cymunedau Llanrug, Brynrefail, Cwm y Glo, Llanberis a Chaernarfon. Mae pencadlys Bws Peris yn Llanberis a bydd yn darparu gwasanaeth dyddiol bob hanner awr rhwng Llanberis a Chaernarfon. Mae gan y cwmni fflyd o bum bws, un goets a bws mini.
Dywedodd Hywel Williams AS:
“Mae hyn yn newydd gwych i bobl Llanberis a’r ardaloedd o gwmpas.
Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda Bws Peris i hwyluso lansiad y gwasanaeth newydd yma fydd yn gaffaeliad mawr i’r gymuned leol. Mae Bws Peris wedi ei leoli yn Llanberis ac mae wedi cyflogi gyrwyr lleol, gan gefnogi’r economi leol.
Rydw i wrth fy modd y bydd pobl Llanberis, Llanrug, Brynrefail, Cwm y Glo a Chaernarfon ym medru mwynhau’r gwasanaeth newydd o’r wythnos yma ymlaen.
Mae’n bwysig cofio nad oes gan bawb gar. Maen nhw’n dibynnu ar y bysys ac mi ddylai’r rheini fod ar gael er hwylustod i deithwyr.
Y gwir yw bod yna fwy o alw am wasanaethau nag sydd o arian i’w cefnogi. Dwi’n ofni, ar ôl mwy o doriadau yng nghyllidebau awdurdodau lleol gan y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, mai cynyddu wneith y pwysau ar wasanaethau lleol, ac mi fydd y sefyllfa’n gwaethygu yn y flwyddyn i ddod."
Dywedodd Shane Price o Bws Peris,
“Mi hoffwn i ddiolch I bobl Llanberis a’r gymuned leol am fod yn gefn i ni. Diolch hefyd i’r Cynghorydd Trefor Edwards am ei gefnogaeth a’i anogaeth gyson.
Gobeithio y bydd y gwasanaeth newydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl leol fynd o gwmpas a hefyd yn hyrwyddo Llanberis fel lle i ymwelwyr ddod iddo.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter