Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru yn galw am ffocws o'r newydd ar blant sydd ddim yn ymwneud a'u haddysg.

"Ni ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl" meddai Siân Gwenllian.

Wrth i Gymru aros am ddyfarniad Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ailagor ysgolion, mae Siân Gwenllian yn galw am wella dysgu o bell ac am gyswllt rheolaidd â phob disgybl i sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei "adael ar ôl".

Mae disgwyl i Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru Kirsty Williams ddiweddaru'r Senedd heddiw (dydd Mercher) ynglŷn ag ailagor ysgolion yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS, fod y pandemig coronafeirws wedi dangos pa mor hanfodol yw'r system addysg, ond ei fod ar yr un pryd wedi datgelu sut mae tlodi a'r 'rhaniad digidol' wedi ymwreiddio mewn cymdeithas.

Dywedodd Ms Gwenllian fod plant sydd heb fand eang digonol a gliniaduron ar eu colled. Maent hefyd ar eu colled os nad yw amgylchedd y cartref yn addas i ddysgu: os nad oes llawer o anogaeth neu os nad oes digon o le ffisegol ar gael.

Y disgwyl yw y bydd dychwelyd i'r ysgol yn digwydd fesul cam, a bod cyfuniad o grwpiau bach a dysgu o bell yn debygol o fod yn norm am gyfnod hir.

Dywedodd Siân Gwenllian AS hefyd mai nawr yw'r amser i "feddwl eto" am drafodaethau am newid tymhorau ysgol yn barhaol.

 

Mantais ailwampio cynllun tymhorau ysgol nawr, meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid, yw y bydd hyn yn rhoi mwy o sefydlogrwydd a chysondeb i ddisgyblion mewn cyfnod mor ansicr.

 

Meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS,

 

"Mae'n rhaid i wella dysgu o bell fod yn ganolog i'r cynlluniau i ailagor ysgolion fesul cam.

"Os gallwn ni wneud dysgu o bell yn iawn, bydd hynny'n agor llawer o bosibiliadau ac yn caniatáu i blant ddychwelyd i'r ysgol yn raddol, pan fydd hynny'n ddiogel ac wedi'i gefnogi'n llawn gan y wyddoniaeth.

"Dylai'r ffocws ar gau'r 'rhaniad digidol' fod yn rhan annatod o gynlluniau'r dyfodol wrth i ni barhau i ymdrechu i gau'r bwlch cyrhaeddiad.

"Yn y cyfamser, mae angen i ni feddwl eto am drafodaethau ynglŷn ag ail-lunio patrwm blynyddol ysgolion i roi gwell sefydlogrwydd a chysondeb dysgu i ddisgyblion yn y cyfnod digynsail hwn.

"I blant sydd ddim yn cael cefnogaeth â'u dysgu yn amgylchedd y cartref, yr hiraf y bydd hyn yn parhau, y mwyaf o risg y byddant ar ei hôl hi – ac ni ddylai unrhyw blentyn gael ei adael ar ôl."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd