Hyd at 60% o bobl methu fforddio prynu tai yn lleol.

Plaid Cymru yn galw am becyn o fesurau brys i gael rheolaeth dros argyfwng ail gartrefi.

Gydag adroddiadau nad yw niferoedd cynyddol o bobl yn gallu fforddio cartrefi yn yr ardaloedd y cawsant eu magu ynddynt, mae Plaid Cymru yn galw am weithredu ar frys gan Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael rheolaeth dros y sefyllfa. Mae'r mesurau'n cynnwys creu dosbarth defnydd ‘ail gartref’ newydd ym maes cynllunio, a chau'r bwlch yn y gyfraith sy'n caniatáu i berchenogion ail gartrefi optio allan o’r dreth gyngor.
 
Dywed Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon, a Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru sydd â chyfrifoldeb dros bolisi, fod gorddefnydd ail gartrefi yn digwydd i’r fath raddau mewn rhai rhannau o Gymru bellach fod cyfran fawr o bobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai, tra bod y galw lleol am dai cymdeithasol yn fwy na’r ddarpariaeth sydd ar gael. Mae Ms Gwenllian wedi galw am becyn o fesurau i reoli maes y hi'n dweud “nad oes gan Lywodraeth Cymru afael arno eto, nac yn un mae’r Llywodraeth yn dangos yr ewyllys gwleidyddol i’w daclo.”
 
Mae'r Cynghorydd Craig ab Iago, arweinydd Tai Cyngor Gwynedd, yn dweud na all 60% o drigolion Gwynedd fforddio prynu tŷ yn y Sir, tra bod ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer Mawrth 2019-Ebrill 2020 yn dangos bod bron i 40% o'r eiddo a werthwyd yng Ngwynedd yn y cyfnod dan sylw wedi eu prynu fel ail gartrefi – yr uchaf yng Nghymru. Dywed y Cynghorydd ab Iago fod gwerthwyr tai yn aml yn marchnata eiddo yn ei ward yn llwyr fel cyfleoedd ail gartrefi, a bod hynny’n rhoi “halen yn y briw”.
 
Yn ôl data Adran Tai Cyngor Gwynedd, mae angen 811 o dai ychwanegol bob blwyddyn yng Ngwynedd i ateb y galw lleol presennol, ond ar yr un pryd caiff 830 o dai eu "colli" fel ail gartrefi, gan greu bwlch o 1,641 o dai bob blwyddyn.
 
Mae Ms Gwenllian yn nodi nad mater gwledig yn unig yw hwn. Mae data Cyngor Dinas Abertawe yn amcangyfrif bod tua 1800 o ail gartrefi yn y Ddinas, gydag ardaloedd Phenrhyn Gŵyr, Gorllewin Abertawe a Marinar ddinas yn cael eu taro waethaf. Or bobl sydd yn berchen ar ail gartrefi yno, maer mwyafrif ohonynt â’u prif gartref y tu hwnt i ffiniau’r Ddinas.
 
Mae llefarydd Tai Plaid Cymru Delyth Jewell AS yn dweud bod pandemig Covid-19 wedi taflu goleuni newydd ar fater ail gartrefi, gan ddweud ei fod yn “hanfodol i ymdeimlad o gymuned nad yw pobl leol yn cael eu prisio allan o'u bro” ac yn galw am sicrhau bod 50% o'r holl stoc tai newydd yn dai cymdeithasol.
 
Ymhlith y pecyn o fesurau y mae Plaid Cymru yn galw amdanynt mae:
      Dosbarth defnydd cynllunio newydd ar gyfer ail gartrefi – bydd hyn yn rhoi'r gallu i reoli faint o dai sy'n cael eu defnyddio fel ail gartref
      Cau'r bwlch yn y gyfraith sy'n caniatáu i berchenogion ail gartrefi eithrio rhag talu'r dreth gyngor ar unwaith.
 
Meddai Siân Gwenllian Aelod o'r Senedd dros Arfon a Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru sydd â chyfrifoldeb dros bolisi:
 
“Mae’r nifer cynyddol o ail gartrefi yn achosi llawer o broblemau i gymunedau – o ran gwthio prisiau tai i fyny, gan arwain at ddiboblogi a bygwth cynaliadwyedd ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Eto i gyd, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â chyflwyno unrhyw fecanwaith i amddiffyn ein cymunedau a'n stoc tai lleol.
 
“Drwy reoli nifer y tai all drosglwyddo o fod yn brif gartref i fod yn ail gartref neu yn llety gwyliau tymor byr, a chau’r bwlch yn y gyfraith sy’n golygu nad oes yr un geiniog o dreth cyngor yn cael ei dalu ar rhai ail gartrefi ar hyn o bryd, gallwn ddiogelu ein cymunedau a diogelu peth o incwm cynghorau lleol fel y gallant helpu i ddiwallu’r angen lleol am dai.
 
“Mae hwn yn faes nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gyffwrdd hyd yn hyn, ac nid yw'r Llywodraeth yn dangos yr ewyllys gwleidyddol i fynd i'r afael â'r broblem hon o gwbl. Maent wedi caniatáu i’r sefyllfa waethygu nes ein bod wedi cyrraedd y pen: rydyn ni’n wynebu argyfwng tai lleol wrth i’r bwlch rhwng y galw lleol am dai cymdeithasol gynyddu yn gyflymach na’r gallu i’w ddiwallu, tra ar yr un pryd mae niferoedd yr ail gartrefi yn mynd allan a reolaeth ac felly hefyd prisiau tai allan o gyrraedd pobl leol. Nid yn unig mae Plaid Cymru wedi dangos y ffordd, yn sicr mae gennym ni'r ewyllys wleidyddol i ddatrys hyn.”
 
Dywedodd Delyth Jewell MS, Gweinidog Cysgodol Tai a Llywodraeth Leol:
 
“Mae pandemig Covid-19 wedi taflu goleuni o’r newydd ar y problemau y gall lefelau uwch o berchenogaeth ail gartrefi eu hachosi – ond heb os nac oni bai, roedd y broblem yno o'r blaen, a bydd yn parhau i waethygu os na chymerir camau ar frys.
 
“Mae cartrefi yn ganolog i ymdeimlad o gymuned ac mae'n hanfodol nad yw pobl leol yn cael eu prisio allan o'u bro. Mae mor bwysig galluogi pobl i aros yn yr ardal y cawsant eu magu ynddi, ac mae polisi sy'n sicrhau bod yn rhaid i 50% o'r holl stoc tai newydd fod yn dai cymdeithasol yn mynd beth o'r ffordd i fynd i'r afael â hyn.
 
“Pan fo gennych chi berchnogion tai sydd â mecanwaith i optio allan o dalu'r dreth gyngor, mae hyn yn effeithio ar ffrydiau incwm cynghorau, ac yn andwyo cymunedau mwy fyth. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i reoli'r broblem hon ar unwaith.”
 
Ychwanegodd Cynghorydd Craig ab Iago, Arweinydd Tai Gwynedd:
 
“Mae cael cartref yn egwyddor greiddiol sydd, yn fy marn i, ddim yn cael ei ddiwallu gan bolisïau cyfyngedig, hen ffasiwn y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a’r Torïaid yn San Steffan. Mae angen chwyldroi’r sustem ddatblygu a’r system gynllunio yng Nghymru.
 
“Enghraifft o'm ward i yw capel wedi'i addasu a roddwyd ar y farchnad am £400,000 gan werthwr tai o Loegr fel ail gartref neu dŷ gwyliau. £16,000 y flwyddyn ydi cyfartaledd cyflog trigolion Gwynedd. Ac mae hyrwyddor cyn gapel yma, mewn ffordd ansensitif fel hyn, yn rhwbio halen ar y briw.”

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.