Lladd ar Lywodraeth Cymru am system brofi "gymhleth, ddi-drefn"

Targed 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill yn mynd i gael ei fethu

Mae Plaid Cymru wedi ymosod ar system brofi Covid-19 "gymhleth a di-drefn" Llywodraeth Cymru, sy'n edrych yn debyg o fethu'r targed o gyrraedd 5,000 o brofion y dydd erbyn yfory.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru y capasiti i gynnal 1,300 o brofion. Dim ond 678 o brofion a gynhaliwyd ddoe.

Awgrymodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg heddiw fod niferoedd y profion yn isel oherwydd nad oedd rhai Awdurdodau Lleol yn cyfeirio staff gofal cymdeithasol i gael eu profi.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd Plaid Cymru, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ei fod "yn ddryslyd" o glywed y Gweinidog Iechyd yn cyhuddo cynghorau o beidio â manteisio ar eu cwota o brofion Coronafeirws ac awgrymodd y dylai'r Gweinidog "ofyn pam" yn hytrach na "bwrw sen yn ddi-sail".

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod awdurdodau lleol wedi bod yn "galw am drefn brofi lawn ac effeithlon" ers tair wythnos ond eu bod yn lle hynny wedi cael "system gymhleth a di-drefn" â "chadwyn hir o fiwrocratiaeth" a "chymhlethdodau".

Ychwanegodd Mr Siencyn fod llawer o'r enwau oedd wedi'u cynnig yn "anghymwys" i gael eu profi a galwodd ar yr Gweinidog Iechyd am "drefn brofi effeithlon a syml".

Dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC fod profi yng Nghymru "ymhell y tu ôl" i ble "gallai ac y dylai fod" a'i bod yn ymddangos bod ffigurau profi'n "llithro am yn ôl".

Meddai Mr ap Iorwerth, os mai "tâp coch" oedd y broblem, bod "angen i'r Gweinidog Iechyd gofio" bod ganddo'r "grym i'w dorri" a galwodd am gynnydd brys yn y capasiti ac am symleiddio'r system brofi.

Meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn o Blaid Cymru,

"Rwy'n ddryslyd o glywed y Gweinidog Iechyd yn cyhuddo cynghorau o beidio â manteisio ar eu cwota o brofion Covid-19. Beth am iddo ofyn inni pam, yn hytrach na bwrw sen yn ddi-sail?

"Mae awdurdodau lleol wedi bod yn galw am drefn brofi lawn ac effeithlon i'n staff rheng flaen ers tair wythnos. Yn lle hynny, mae gennym system gymhleth a di-drefn sy'n cynnwys cyfeirio at y byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Data Cymru ac awdurdodau lleol. Mae'n gadwyn hir o fiwrocratiaeth, cymhlethdodau a haenau cyn i'r canlyniadau ein cyrraedd ni.

"Rydym hefyd yn gweld bod llawer o'r enwau sy'n cael eu cynnig ar gyfer profion yn anghymwys, am resymau sy'n anodd eu deall. Mr Gething, gyda phob dyledus barch – mae arnom angen trefn brofi effeithlon a syml i ganiatáu i weithwyr allweddol fynd yn ôl i'r gwaith. Rhowch y gorau i feio pobl eraill am eich diffygion eich hun, ac ewch ymlaen â'r dasg hanfodol hon. Proses brofi syml, er mwyn i ni allu cydweithio fel un i ddileu'r clefyd marwol hwn.

Meddai Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC,

"Ar Fawrth 21ain cawsom wybod bod 800 o brofion yn cael eu gwneud bob dydd yng Nghymru, ac y byddai'r ffigur hwnnw'n cynyddu i 8000 erbyn Ebrill 7fed.  Ddoe, dim ond 678 o brofion gafodd eu gwneud.

"Roedd y cyfanswm hyd yma yng Nghymru i fod dros 100,000. Yn lle hynny, rydyn ni ar 21169.

"Do, mi chwalodd cytundeb, ac roedd awgrym bod capasiti profi wedi cael ei gymryd oddi ar Lywodraeth Cymru, ond hyd yn oed wedyn mae hyn yn bell y tu ôl i ble gallai ac y dylai fod, ac yn wir ble mae angen inni fod er mwyn cael gafael ar yr argyfwng hwn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud yn gyson mai profi yw 'asgwrn cefn' y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

"Dro ar ôl tro rydym yn clywed 'bydd pethau'n iawn, rydym yn cynyddu'r capasiti'n gyson'.  Ond, nid yn unig dydy'r ffigurau profi ddim yn tyfu, mae’n ymddangos eu bod nhw'n llithro am yn ôl.

"Os mai'r tâp coch yw'r broblem i'r Gweinidog Iechyd fel mae'n ei awgrymu, mae angen iddo gofio bod ganddo'r grym i'w dorri. Dydy gweithwyr allweddol ddim yn cael eu profi. Mae profion yn rhy araf i ddod yn ôl. Mae angen i ni gynyddu capasiti ar frys a symleiddio'r system brofi."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd