Rhowch lais i gymunedau lleol wrth ddatblygu tai” meddai AC Plaid Cymru

sian_gwenllian.jpg

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian, wedi galw am gydbwysedd yn y system gynllunio i wneud yn siwr nad ydyw’n ffafrio datblygwyr mawr ar draul anghenion lleol a chynaliadwyedd cymundeol.

Mae sylwadau Sian Gwenllian AC yn ategu sylwadau’r bargyfreithiwr a’r arbenigwr cynllunio Gwion Lewis, sydd wedi amlinellu ei weledigaeth i roi mwy o reolaeth i gymunedau dros y tai a’r datblygiadau eraill sy’n cael eu codi yn eu hardaloedd.

Bydd Sian Gwenllian AC yn anerch cyfarfod i drafod yr angen lleol am dai a’r Gymraeg yn y system gynllunio yng nghwmni Gwion Lewis dydd Gwener y 10fed o Awst ym mhabell Cymdeithasau 1 yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Bydd y cyfarfod yn trafod cryfhau llais cymunedau lleol yn y broses o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol gan edrych ar rol datblygwyr mawr a chymunedau o ran rheoli’r farchnad dai gan holi os oes modd creu trefn gynllunio er budd cymunedau lleol a’r iaith Gymraeg.

Daw’r cyfarfod yn dilyn datganiad Cymdeithas yr Iaith dydd Llun fod canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn “anghyfreithlon” ac yn methu ystyried yn ddigonol effaith ceisiadau cynllunio ar yr iaith Gymraeg.

Meddai Sian Gwenllian AC ac ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros y Gymraeg a chynllunio:

“Mae angen sefydlu trefn gynllunio newydd ledled Cymru fydd yn sicrhau bod lleisiau cymunedau lleol yn cael eu clywed pan fo cynlluniau datblygu’n cael eu cyflwyno.

Rwy’n ofni nad yw datblygwyr mawr yn talu sylw i anghenion lleol o dan y drefn sydd ohoni.

Mae angen i bobl leol gael llais yn y broses o gynllunio defnydd tir a datblygiadau tai yn eu cymunedau ac mae angen i unrhyw drefn gynllunio asesu yr angen lleol a’r effaith y bydd y datblygiadau yn gael ar gymunedau lleol.

Dylai unrhyw drefn gynllunio newydd ystyried anghenion y gymuned leol mewn dull strategol a holistaidd gan ystyried ffactorau megis seilwaith ffyrdd, ysgolion, cyfleusterau cymunedol, mannau gwyrdd yn ogystal ag effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg a chynaliadwyedd cymunedol.

“Rwy’n credu y dylid parhau i wneud y penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar lefel sirol ond fod hyn yn seiliedig ar gynlluniau strategol fyddai’n cynnwys dulliau cadarn er mwyn asesu’r angen lleol ym mhob sir yng Nghymru. Mae eraill yn dadlau dros roi hawl i gynhgorau cymuned, tref, dinas a phlwyf i benderfynu ar geisiadau unigol. Cawn gyfle i wintyllu mwy ar hynny yng nghwmni Gwion Lewis dydd Gwener. Edrychaf ymlaen at drafodaeth ddifyr ac adeiladol.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd