Llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg yn dweud wrth Llafur i “symud ymlaen a gweithredu”. Sian Gwenllian yn cynnig ffordd allan o'r gors i Eluned Morgan

Gan fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi datgan na fyddan nhw yn dod â deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg gerbron yn ystod y flwyddyn nesaf, mae Plaid Cymru eisiau gweld nhw’n gweithredu yn syth er mwyn gwireddu’r uchelgais o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 a gweithredu ar gefnogaeth eang pobl Cymru i’r Gymraeg.

Meddai Sian Gwenllian AC, llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg,

“Flwyddyn ers i Alun Davies gyhoeddi papur gwyn dadleuol ar Fil y Gymraeg yn Eisteddfod Ynys Môn, dyma ni mewn Eisteddfod arall gyda Llafur mor ddigyfeiriad ag erioed ynglŷn a’u strategaeth ar gyfer yr iaith– a dim byd wedi digwydd yn y cyfamser ond troi yn yr unfan.

“Mae absenoldeb Bil y Gymraeg o’r rhaglen ddeddfwriaethol – sef rhestr o’r biliau fydd yn dod gerbron y Cynulliad yn ystod 2018/19 – yn golygu ei fod yn gwestiwn bellach a fydd cynlluniau ffôl y Llywodraeth i wanio’r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn digwydd o gwbl –  yn wyneb newid Prif Weinidog, cymhlethdod Brexit a’r ffaith bydd Etholiad Cynulliad yn 2021.

“Ond nid yw’r ffaith na fydd deddfu am y tro yn esgus dros lusgo traed a cholli momentwm. I’r gwrthwyneb, mae angen ac mae modd gweithredu ar fyrder o blaid y Gymraeg a chreu’r Miliwn o Siaradwyr.

“Mae’n gyfnod cyffrous i’r Gymraeg, gyda chefnogaeth gref i’r iaith ledled Cymru – yn ôl tystiolaeth Llywodraeth Cymru ei hun. Mae hynny’n cyferbynnu’n llwyr â’r diffyg cefnogaeth gan bobl Cymru i gynlluniau Eluned Morgan a Llywodraeth Cymru gyda Bil y Gymraeg. Heddiw, mae Plaid Cymru’n amlinellu cynllun amgen er mwyn rhoi terfyn ar wastraffu amser ar Fil y Gymraeg.

“Byddai Plaid Cymru yn bwrw ati fory nesaf gyda Rhaglen Weithredu uchelgeisiol fyddai’n cynnwys:

-           Cynnal ymgyrch fawr genedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg a manteision dwyieithrwydd

-           Creu cyfleon i blant ac oedolion o bob cwr o Gymru gael blasu bywyd a gwaith mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith fyrlymus a naturiol y gymuned

-           Datblygu gwaith Arfor ( cydweithio strategol rhwng pedair sir y Gorllewin) gan ddatblygu economi’r ardaloedd ble mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol

-           Creu cynllun hyfforddi gweithlu cynhwysfawr ar gyfer ehangu addysg Gymraeg ar draws Cymru

-           Sefydlu corff hyrwyddo a chynllunio ieithyddol newydd – o fewn y fframwaith gyfreithiol sydd yn bodoli yn barod – i gynllunio dyfodol y Gymraeg mewn modd strategol, gan adael Comisiynydd y Gymraeg i fwrw ymlaen â’r gwaith rheoleiddio

-           Symud ymlaen i ddefnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol i greu gwasanaethau Cymraeg statudol ym maes cymdeithasau tai; dwr; cwmnïau post, bysiau trenau a rheilffyrdd ; nwy a thrydan a thelathrebu.

-           Symud ymlaen i gynnwys archfarchnadoedd a banciau yn y rhaglen waith fel bod modd cael gwasanaethau dwyieithog fel hawl cyfreithiol.

-           Creu Cyfarwyddiaeth y Gymraeg rymus ar lefel corfforaethol o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob adran o’r Llywodraeth yn gweithio tua’r Miliwn

“Mae gen i yr ewyllys gwleidyddol i roi hyn ar waith. Os yw Eluned Morgan a Llafur wir o ddifri o blaid creu miliwn o siarawdwyr Cymraeg, rhaid iddyn nhw brofi hynny. Nid drwy eiriau gwag ond trwy weithred. Rwy’n galw arnyn nhw heddiw i roi’r rhaglen uchod ar waith ar fyrder neu i esbonio pam nad ydyn nhw am wneud hynny.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd