Llwyddiant i'r Blaid yn Llanrug

Braf yw cyhoeddi bod Beca Brown wedi ei hethol yn Gynghorydd Sir newydd Plaid Cymru dros Lanrug mewn Is Etholiad Cyngor Gwynedd neithiwr (25 Mawrth 2021).

Enillodd Beca 63% o’r bleidlais, gyda 681 o bobl yn troi allan i bleidleisio.

Y Canlyniad

Beca Brown, Plaid Cymru: 431

Richard Philip Green, Annibynnol: 221

Calum Dafydd Davies, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: 16

Martin Harry Bristow, Annibynnol: 13

“Mae hi’n fraint dilyn yn ôl troed y diweddar Gynghorydd Plaid Cymru dros yr ardal, Charles Jones,” meddai Beca Brown.

“Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cydweithio a’m cefnogi yn ystod yr ymgyrch, ac yn gwerthfawrogi pob pleidlais sydd wedi dod i’m rhan. Mi wnaf fy ngorau dros bobl Llanrug gan weithio ar eu rhan i’w cynrychioli hyd orau fy ngallu.

“Hoffwn ddiolch i’r ymgeiswyr eraill am redeg ymgyrch deg a pharchus. Dwi hefyd am dalu gwrogaeth i staff Cyngor Gwynedd am sicrhau etholiad broffesiynol a threfnus iawn dan amgylchiadau anodd pandemig.

“Dwi’n edrych ymlaen at ymuno â chriw Plaid Cymru yng Ngwynedd i gydweithio â’r tîm o Gynghorwyr sy’n gweithio ar ran trigolion y sir. Diolch yn fawr iawn.”

Yn ôl Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, Elin Walker-Jones: “Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiant Beca Brown fel cynghorydd newydd dros Lanrug. Er mai profiad chwerwfelys sydd gennym yn Llanrug wedi colli gwleidydd triw, bydd Beca yn gaffaeliad i’r ardal.

“Mae ganddi frwdfrydedd heintus, agwedd gadarnhaol a phrofiad helaeth o’r byd gwleidyddol cenedlaetholgar. Mae pobl Llanrug wedi rhoi eu hymddiriedaeth ynddi, ac rydym fel grŵp o gynghorwyr Plaid Cymru yn edrych mlaen at ei chroesawu i’n plith a’i chefnogi yn ei thaith wleidyddol sirol. Llongyfarchiadau mawr!”

Galwyd Isetholiad Ward Llanrug, Cyngor Gwynedd yn dilyn marwolaeth y diweddar gynghorydd Plaid Cymru, Charles Jones.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-03-29 16:01:02 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd