Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r sector Gweithgareddau Awyr Agored

Mae Siân Gwenllian AS wedi lleisio ei phryder ynghylch esgeulustod Llywodraeth Cymru o’r sector gweithgareddau awyr agored.

Gofynnodd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, sydd hefyd yn Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a Diwylliant i Mark Drakeford, y Prif Weinidog, am ddatganiad ar gefnogaeth i ganolfannau addysg awyr agored ddoe.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS;

 

“Rwyf wedi gohebu yn ôl ac ymlaen gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn ers mis Mawrth, ond prin yw'r gweithredu. Mae angen i'r Llywodraethau drafod a dod o hyd i ffordd ymlaen ar gyfer sector sy’n teimlo’n rhwystredig iawn.

 

Rwyf wedi bod mewn trafodaethau â chynrychiolwyr o ganolfannau addysg awyr agored yn fy etholaeth fy hun, a’r neges y maent yn ei chyfleu yw eu bod yn teimlo fel petai’r Llywodraeth wedi anghofio amdanynt fel sector, ac nad yw’r Llywodraeth yn rhoi arweiniad priodol, nac yn ystyried rhoi cefnogaeth benodol i ganolfannau awyr agored. ”

 

Mae dadl ar hyn o bryd ynghylch y bygythiad i addysg awyr agored yn Senedd yr Alban.

 

Mae datganiad diweddar gan yr Institute for Outdoor Learning yn honni, oni bai y bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi i’r sector yn y flwyddyn academaidd hon, bydd y sector yn colli ei holl staff, sy’n 15,000 o swyddi.

 

Mae datganiad yr IOL yn adrodd;

 

“Mae’r diffyg gweithredu ynghylch canllawiau ar deithio ac ymweliadau dros nos ar gyfer lleoliadau addysgol eisoes wedi arwain at golli tua £500m o refeniw, a thros 6000 o swyddi.

 

Ers mis Mawrth, mae plant a phobl ifanc wedi colli allan ar dros 1.5m o ymweliadau addysgol.”

 

Mae Gareth Davies o Ganolfan Awyr Agored Arete, Llanrug, wedi mynegi ei bryderon gan nodi bod;

 

“aros tan fis Medi 2021 nes y gallwn dderbyn rhywfaint o incwm yn hollol anghynaladwy i ni a’r holl ganolfannau awyr agored eraill ledled Cymru.”

 

Adleisiodd David Crombie, o Boulder Adventures Ltd. yn Llanberis ei bryderon;

 

“Mae pryderon y sector Addysg Awyr Agored yn parhau i dyfu oherwydd diffyg arweiniad clir ar gyfer strategaeth ailagor i ganolfannau gan y Llywodraeth.

 

Wrth inni wynebu gaeaf arall, mae llawer o ganolfannau yn wynebu dyfodol ansicr iawn oherwydd colli eu busnes i gyd, bron, yn 2020.

 

Mae hyn yn arwain at berygl gwirioneddol o golli swyddi wrth i gyfnod y = ddod i ben, ond mae hefyd yn golygu bod miloedd o bobl ifanc wedi colli allan ar brofiadau sy’n cyfoethogi eu bywydau.

 

Mae addysg awyr agored yn hyrwyddo gwaith tîm, sgiliau cymdeithasol, iechyd, a lles. Er mwyn gallu parhau i ddarparu'r manteision hyn yn 2021, mae gwir angen eglurder a chefnogaeth ariannol ychwanegol gan y Llywodraeth i achub canolfannau addysg.”

 

Mae Siân Gwenllian AS wedi ychwanegu bod angen ‘arweiniad’ ar y sector yn ogystal â ‘chefnogaeth economaidd ystyrlon’.

 

Ychwanegodd Gareth Davies o Ganolfan Awyr Agored Arete;

 

“Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi anghofio amdanom fel sector, er y gallem ni, trwy gymryd un swigen ysgol ar y tro, weithredu yn unol ag agor ysgolion.

 

Byddai'r swigen, yn bennaf, yn yr awyr agored. O'r rhestr o sectorau y caniateir iddynt agor, mae’n sicr nad ein sector ni yw'r mwyaf peryglus, ond yn hytrach mae’n un o’r sectorau mwyaf buddiol i'n pobl ifanc. "


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-10-08 12:26:00 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd