Mae as Plaid Cymru Sian Gwenllian yn dweud wrth Lywodraeth Cymru bod angen ystyried yn ofalus wrth gynllunio i ailagor ysgolion.

Mae AS Plaid Cymru a Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Sian Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd pob cam i sicrhau diogelwch disgyblion ac athrawon Cymru wrth gynllunio i ailagor ysgolion Cymru. 

Mae Lloegr eisoes wedi cyhoeddi ailagor ysgolion yn rhannol. Mae disgwyl i Weinidog Addysg Cymru Kirsty Williams wneud cyhoeddiad yn ddiweddarach yr wythnos yma ynglŷn â'r cynlluniau ar gyfer Cymru. 

Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, wrth gynllunio i ailagor ysgolion Cymru, y dylai iechyd a diogelwch y disgyblion ac athrawon fod yn "brif flaenoriaeth".

Dywedodd Ms Gwenllian y dylid blaenoriaethu anghenion addysgol a lles disgyblion hefyd wrth benderfynu pa grwpiau o ddisgyblion a ddylai ddychwelyd, yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar y rhieni'n dychwelyd i'r gwaith fel sy'n digwydd yn Lloegr.

Wrth i'r cyfyngiadau symud barhau yng Nghymru ac am y misoedd o'n blaenau, bydd dysgu o bell yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'r system addysg. Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid y dylid rhoi "arweiniad a chefnogaeth glir" i ysgolion ynglŷn â "disgwyliadau o ran lefelau ymgysylltiad" â disgyblion.   

Dywedodd Ms Gwenllian na ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl.  

Meddai Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, 

"Er mwyn osgoi cynnydd o ran trosglwyddo yn y gymuned, mae angen i gynlluniau i ailagor ysgolion fod mor ofalus a manwl â phosibl gan gadw iechyd a diogelwch disgyblion a staff yn brif flaenoriaeth. 

"Hefyd, dylai'r cynlluniau sy'n cael eu ffurfio nawr yng Nghymru i lacio'r cyfyngiadau symud flaenoriaethu anghenion addysgol a lles disgyblion, yn hytrach na blaenoriaethu rhieni'n dychwelyd i'r gwaith fel sy'n digwydd yn Lloegr. 

"Wrth i ddysgu o bell barhau i fod yn hanfodol bwysig yn ystod y cyfnod nesaf, mae angen rhoi arweiniad a chefnogaeth glir i ysgolion ynglŷn â disgwyliadau o ran lefelau ymgysylltiad â disgyblion. 

"Dylai pob ysgol gadw mewn cysylltiad rheolaidd â phob plentyn. Ni ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd