Mae Bangor yn agored i fusnes!

AS + AC LLEOL YN ANNOG SIOPWYR I GEFNOGI STRYD FAWR BANGOR.

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams a’r AC Siân Gwenllian yn annog siopwyr i ‘aros yn lleol a chefnogi stryd fawr Bangor’, gan y bydd ar gau i draffig tan y Pasg yn dilyn tân difrifol.

Treuliodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC y prynhawn yn ymweld â busnesau yr effeithiwyd arnynt gan roi cyngor ar sut y gall busnesau sy'n gymwys, wneud cais am ryddhad ardrethi, o ystyried yr amgylchiadau digynsail.

Byddant hefyd yn dosbarthu llythyrau i fusnesau yr effeithir arnynt yn nodi sut i gysylltu â’r Swyddfa Brisio (VOA), y swyddfa sy'n gyfrifol am gyfraddau trethi annomestig.

 

Dywedodd Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC,

‘Fe dreulion ni brynhawn ddoe yn siarad â pherchnogion busnesau ar stryd fawr Bangor, sy’n bryderus, yn ddealladwy, am effaith cau’r ffordd ar fasnach a’r problemau cysylltiedig a ddaw yn sgil hyn.’

‘O’n trafodaethau, rydym yn deall bod rhai manwerthwyr eisoes yn y broses o wneud cais am ryddhad ardrethi drwy’r Swyddfa Brisio (VOA), ac rydym yn annog eraill sy’n ystyried hyn i wneud hynny fel cam cyntaf.’

‘Hoffwn ddiolch i Gyngor Gwynedd am eu hymateb adeiladol ac am gynnig cefnogaeth ychwanegol i fusnesau nad ydynt efallai’n derbyn yr ymateb a ddymunir gan y Swyddfa Brisio.’

‘Mae stryd fawr Bangor yn allweddol wrth ddod â phobl ynghyd, gyda’r arlwy o siopau annibynnol yn gweithredu fel man cyfarfod i ffrindiau a theuluoedd ac yn cefnogi swyddi i bobl leol.’

‘Dyna pam mae’n rhaid i ni i gyd wneud yr hyn a allwn i annog siopwyr i gefnogi’r busnesau annibynnol rydyn ni i gyd yn eu hadnabod ac yn eu gwerthfawrogi.’

‘Rwan yn fwy nag erioed, mae angen ein cefnogaeth ar fanwerthwyr y stryd fawr. Rydym yn annog pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddod i stryd fawr Bangor, cefnogi masnachwyr lleol a’u helpu drwy’r amser anodd hwn.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd