Marchnad Bangor “yn lle perffaith ar gyfer siopa Nadolig munud olaf”

Mae degau o gynhyrchwyr lleol ym marchnad Bangor 

Mae marchnad wythnosol wedi dychwelyd i Fangor ar ôl seibiant o 18 mis oherwydd Covid. Mae’r farchnad yn dychwelyd yn dilyn trafodaethau rhwng Cyngor Dinas Bangor a The Artisan Market Company.

 

Aeth Siân Gwenllian MS a Hywel Williams AS draw i’r farchnad, a’i alw’n “lle perffaith ar gyfer siopa Nadolig munud olaf.”

 

Ymhlith y stondinau ym marchnad Bangor eleni mae cigoedd ffres, crefftau pren, teganau, planhigion, cyffug lleol, canhwyllau, cacennau cartref, gemwaith, a chardiau wedi'u gwneud â llaw.

 

Mae Siân Gwenllian, sydd yn y llun uchod gydag Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, wedi croesawu’r farchnad yn ôl ar ôl “dwy flynedd hir.” 

“Mae wedi bod yn ddwy flynedd hir, ond mae Marchnad Bangor yn ffordd berffaith o gymdeithasu’n ddiogel yn yr awyr agored a chefnogi busnesau bach annibynnol tra’n gwneud hynny,” meddai Siân Gwenllian.

 

“Mae'n codi calon gweld pobl leol yn mentro i fyd busnesau bach. Mae ’na lawer o fanteision o wneud hynny. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod busnesau bach annibynnol yn cyflogi mwy o bobl fesul gwerthiant, ac parhau i gyflogi gweithwyr yn ystod cyfnodau tawel yn yr economi.

                 

“Fel yr amlinellais yn gynharach eleni, mae Stryd Fawr Bangor yn wynebu nifer o heriau.

 

“Mae parciau siopau ar gyrion y ddinas, Covid, a brwydr ddyddiol pobol i gadw dau ben llinyn ynghyd wedi cael effaith negyddol ar strydoedd mawr yng Nghymru benbaladr, ond mae Bangor wedi wynebu problemau unigryw, gan gynnwys y tân, a chau’r Stryd Fawr wedi hynny.

 

“Ond nid rŵan ydi’r amser i roi’r ffidil yn y to.”

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS;

 

“Mae manteision economaidd, amgylcheddol a chymunedol di-rif mewn siopa’n lleol, a thra bo’r farchnad yma does gynnon ni ddim esgus. Mae'n lle perffaith ar gyfer siopa Nadolig munud olaf!”

 

Mae Marchnad Bangor ar y Stryd Fawr yng nghanol y ddinas ar ddyddiau Gwener rhwng 9 - 4.30pm.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-12-15 11:08:29 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd